Minecraft Education a Cadw yn ymuno i adeiladu diddordeb mewn treftadaeth Gymreig
Minecraft Education and Cadw join forces to build interest in Welsh heritage
Pa ffordd well i annog chwilfrydedd ac adeiladu diddordeb mewn rhywbeth hen na'i bwytho ynghyd â rhywbeth newydd?
Dyna'n union y mae Cadw wedi'i wneud gyda chefnogaeth Minecraft Education Microsoft.
Byd Minecraft Cadw fydd y fersiwn Gymraeg gyntaf erioed o Minecraft Education, a lansiwyd yng Nghastell Conwy ddoe [dydd Iau 5 Rhagfyr].
Cymru yw un o ddefnyddwyr uchaf Minecraft Education yn y byd a dyma fydd y tro cyntaf i blant allu cael gafael ar yr adnodd dysgu hwyliog hwn yn eu hiaith eu hunain, sy'n ceisio annog dysgwyr a siaradwyr rhugl i ddefnyddio'r Gymraeg.
Fersiwn dwyieithog Minecraft o Gastell Conwy fydd y cyntaf i ymddangos, ond ychwanegir lleoliad newydd bob mis nes bod cyfanswm o 20 o safleoedd eraill y mae Cadw yn gyfrifol amdanynt yn cael eu cynnwys yn y cam cyntaf hwn. Bydd pob safle newydd yn cael ei gefnogi gan lansiad rhithwir a sesiynau hyfforddi i athrawon a bydd yr holl adnoddau'n cael eu cynnal ar wefan adnoddau addysg Hwb gyda dolen o wefan Cadw.
Yn ystod y digwyddiad lansio ddoe, cafodd plant a oedd wedi helpu i brofi'r byd o'r blaen, o Ysgol Pennant, ac ysgol y Ceidwaid Ifanc lleol, Ysgol Minafon, daith go iawn o amgylch y safle yn ogystal â'r cyfle i brofi hyn drwy Minecraft, fel y gallent gymharu a phrofi'r ddau.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:
"Mae hon yn rhaglen enfawr ac arloesol, ac rwy'n falch iawn o helpu i lansio'r fersiwn Gymraeg newydd wych hon o Minecraft.
"Nid yn unig y mae'n dathlu treftadaeth Cymru, ond trwy adnoddau a gweithgareddau cysylltiedig, bydd yn ysbrydoli plant i archwilio eu hanes a'u diwylliant eu hunain, gan obeithio ymchwilio ac adeiladu eu fersiynau eu hunain o'r safleoedd hanesyddol hyn."
Meddai Justin Edwards, Cyfarwyddwr Profiad Dysgu Minecraft:
"Mae Minecraft Education yn falch iawn o'r defnydd arloesol parhaus o Minecraft o fewn ystafelloedd dosbarth Cymru. Mae'r prosiect hwn, sy'n arbennig o bwysig i bwnc treftadaeth ddiwylliannol a gwyddoniaeth, yn dangos y gall dysgu ar sail gêm ddarparu profiadau cwricwlwm gafaelgar ac atyniadol sy'n berthnasol i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru."
Dywedodd Manon Jones, athrawes yn Ysgol Pennant:
"Mae hwn yn adnodd anhygoel i blant Cymraeg eu hiaith a'r rhai sy'n dysgu'r iaith. Mae Minecraft yn offeryn gwych ar gyfer ymgysylltu â disgyblion. Nawr, gyda'r Pecyn Adnoddau Cymraeg, mae'n ffordd hyd yn oed yn fwy pwerus o gysylltu pobl ifanc â'u treftadaeth a'u hiaith. Mae'n ffordd hwyliog a chyffrous o ddysgu!"