English icon English

Mwy o daliadau Glastir yn cael eu talu ym mis Ionawr

Increase in Glastir payments made in January

Mae mwy o daliadau Glastir wedi’u talu’n gynnar yn y cyfnod talu i fusnesau ffermio yng Nghymru, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cafodd dros 2,200 o hawliadau i gynlluniau Glastir Sylfaenol, Uwch, Tir Comin ac Organig eu talu ym mis Ionawr, sef 78% o’r holl hawliadau sydd wedi dod i law, gwerth £26.2m i ffermydd Cymru.

Mae’r busnesau sy’n cael eu talu yn gwneud cyfraniad pwysig, trwy’r hyn y maen nhw’n ei wneud i ddatgarboneiddio ffermio yng Nghymru, at warchod a chyfoethogi bwyd gwyllt a bioamrywiaeth, gwella pridd a dŵr, at adfer mawnogydd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Y rheswm am y cynnydd yn nifer y taliadau Glastir gafodd eu gwneud o’u cymharu â blynyddoedd cynt, yn rhannol, yw bod Cynllun Taliad Sylfaenol 2021 wedi’i symleiddio.

Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog £66.7m i estyn y cynlluniau Glastir tan fis Rhagfyr 2023. Penderfynwyd gwneud hynny er mwyn cael amser i ddeall yn well effaith cynlluniau Glastir a chyfrannu at ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rwy'n falch bod llawer mwy o daliadau wedi’u gwneud o'u cymharu â blynyddoedd cynt.

"Mae hynny wedi digwydd o ganlyniad i symleiddio Cynllun Taliad Sylfaenol 2021 a rhoi proses symlach ar waith a’n galluogodd i gyflwyno system ar gyfer rhagdalu’r BPS ym mis Hydref llynedd.

"Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant, sydd wedi gweithio gyda'm swyddogion i sicrhau bod y nifer digynsail hwn o daliadau’n cael eu talu i fusnesau fferm yng Nghymru.

"Bydd y gwaith caled o brosesu'r hawliadau sy'n weddill yn mynd rhagddo cyn gynted â phosibl. Rwy'n disgwyl cyrraedd targed y Comisiwn Ewropeaidd cyn 30 Mehefin, sef talu’r holl hawliadau, heblaw’r rhai mwyaf cymhleth, cyn y dyddiad hwn."