
Mwy o gymorth ariannol i ddysgwyr sy'n oedolion mewn addysg bellach
More financial support for adult learners in further education
Mae'r cyfnod ymgeisio am grant o hyd at £1,919 i ddysgwyr 19 oed neu hŷn mewn addysg bellach nawr ar agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach yn darparu cyllid i ddysgwyr 19 oed neu hŷn i barhau â'u taith addysg. Gallai myfyrwyr amser llawn gydag incwm aelwyd o £18,370 neu lai dderbyn hyd at £1,919 y flwyddyn, a gall dysgwyr rhan-amser fod yn gymwys i gael hyd at £959.
Mae lefel y grant wedi cynyddu yn y flwyddyn academaidd hon i ddarparu cymorth ariannol pellach a helpu dysgwyr gyda'r costau byw cynyddol. Nod y grant hwn, nad oes rhaid ei ad-dalu, yw helpu gyda chostau fel llyfrau, offer a chostau teithio, a chreu cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion a fyddai fel arall yn cael trafferth gyda chostau addysg.
Mae Owen, sy'n ddysgwr ar gwrs Cerbydau Modur yng Ngholeg Aberhonddu, yn derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Ers dod yn gymwys, mae wedi mynychu 100% o'i sesiynau ac wedi dangos awydd cryf i gyflawni ei gymhwyster.
Dywedodd: "Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru wedi bod o fudd mawr i'm profiad addysgol am ei fod yn darparu'r cymorth ariannol angenrheidiol i mi ragori yn fy nghwrs."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: "Dylai addysg fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol. Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach yn darparu cymorth hanfodol i ddysgwyr sy'n oedolion, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cynyddu'r swm a roddir i ddysgwyr i'w cefnogi'n well yn eu taith addysgol a helpu i wneud gwahaniaeth i'w dyfodol.
Rwy'n annog unrhyw un sy'n 19 oed neu'n hŷn ac mewn addysg bellach i wirio eu cymhwystra ar gyfer y grant hwn a gwneud cais nawr."
I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra a sut i wneud cais, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu siaradwch â'ch coleg addysg bellach.