Mwy o gymorth i fyfyrwyr a sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch
More support for students and Further and Higher Education institutions
Mae mwy o gymorth ariannol i fyfyrwyr a buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn yn rhan o becyn cymorth ar gyfer y sectorau addysg bellach ac uwch.
Er mwyn sicrhau bod addysg uwch ar gael i fwy o bobl, eu helpu i fanteisio arni, a chefnogi myfyrwyr sy'n wynebu pwysau'r costau byw sy'n parhau, mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cyhoeddi heddiw [4 Rhagfyr 2024] gynnydd o 1.6% yn y cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr israddedig rhan-amser ac amser llawn cymwys o Gymru, myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Bydd uchafswm y cymorth ar gyfer astudiaethau meistr ôl-raddedig ac astudiaethau doethurol ôl-raddedig hefyd yn cynyddu 1.6%. Yn ogystal, bydd y grantiau ar gyfer y rheini sydd â dibynyddion a'r rheini sy'n anabl hefyd yn cynyddu 1.6%.
Llywodraeth Cymru sy'n cynnig y cymorth mwyaf hael tuag at gostau byw myfyrwyr israddedig amser llawn yn y DU, ac mae gennym y lefelau uchaf o gymorth grant nad oes rhaid i'r bobl fwyaf anghenus ei ad-dalu. Ar gyfartaledd, mae myfyrwyr Cymru yn ad-dalu llai na'u cydfyfyrwyr yn Lloegr.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi £20 miliwn ychwanegol ar gyfer Medr i gefnogi addysg bellach ac uwch. Mae hyn yn cynnwys £10m i gefnogi addysgu a dysgu, gwaith ymchwil, ehangu mynediad a rheoli newid mewn prifysgolion, a bydd £10 miliwn yn cael ei roi i golegau addysg bellach i dalu costau'r galw cynyddol a chymorth i ddysgwyr.
I gydnabod costau uwch darpariaeth addysg uwch a darparu cyllid ychwanegol i Brifysgolion Cymru, ac i helpu i sicrhau eu bod yn parhau'n hyfyw ac yn gystadleuol, bydd y cap ar yr uchafswm y gellir ei godi ar fyfyrwyr israddedig sy'n dewis astudio yng Nghymru yn cynyddu i £9,535 o £9,250, yn unol â Lloegr. Ni fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar faint o arian sydd ar gael i fyfyrwyr tra byddant yn astudio. Bydd y benthyciad ffioedd dysgu hefyd yn cynyddu hyd at £9,535. Bydd y diddymiad rhannol o hyd at £1,500 o ddyled myfyriwr, pan fydd yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad, yn parhau. Mae hyn yn unigryw i fyfyrwyr o Gymru, lle bynnag y maent yn astudio.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
"Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol, ac mae'n destun balchder i mi bod Cymru bob amser wedi cynnig y gefnogaeth ariannol fwyaf hael yn y DU i'n myfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol a sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb, beth bynnag eu cefndir, a'u bod yn gallu manteisio arni, fel y gallwn godi lefel sgiliau er budd economi Cymru i'r dyfodol.
"Roedd y penderfyniad i godi ffioedd dysgu yn anodd ond yn angenrheidiol, er mwyn sicrhau bod sefydliadau addysg uwch Cymru yn parhau i gystadlu â rhannau eraill o'r DU. Rwyf am fod yn glir na ddylai'r cynnydd bach hwn mewn ffioedd ddarbwyllo unrhyw un o Gymru sy'n ystyried gwneud cais am brifysgol y flwyddyn nesaf i beidio â gwneud hynny. Ni fydd y cynnydd mewn ffioedd yn golygu cynnydd yn y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw. Ni fydd chwaith yn cynyddu eu had-daliadau misol fel graddedigion."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Student loan advances (for fee and maintenance loans) are defined as Annually Managed Expenditure (‘AME’), as spending is demand led, volatile and too large to be absorbed within Welsh Government’s DEL budget. AME funding is made available by His Majesty’s Treasury, who imposes rules on student loan AME expenditure.
- The maximum amount of maintenance support available to students will be increased by a measure of inflation – CPI (Consumer Price Index). The Welsh Government has moved away from using a measure of RPIX for increasing student support rates in Wales. CPI is a fairer, more accurate and consistent measure of inflation that reflects the real cost of living for students. CPI better reflects everyday costs like food, transport, and clothing—essentials for student life. CPI is an internationally recognised measure and as such is becoming the preferred measure of inflation used by government departments and international organisations like the Office for National Statistics (ONS) and the European Central Bank.
- Medr is responsible for funding and regulating the tertiary education and research sector in Wales.
- The increased tuition fee cap will apply to any eligible student studying in Wales, not just Welsh students.
- The amount of tuition fees charged is a matter for each provider of higher education. The Welsh Government does not set fees, only the maximum which may be charged.
- All Welsh students on courses at regulated institutions will have the full cost of their undergraduate tuition fee met by the Welsh Government whether they choose to study in Wales or elsewhere in the UK. This continues a longstanding policy of no Welsh student paying upfront costs for their undergraduate tuition.
- Wales has retained a fairer and more progressive repayment plan (‘Plan 2’) than that in England (‘Plan 5’). Repayment of student loans are income contingent. The amount a student repays depends on how much they earn above a thresholds (currently £27,295). Outstanding debts are written off after 30 years. . Therefore, the increase in fees will only affect those students who go on to be higher earning graduates later in life, in most cases long after they have graduated.
- A table of how maintenance support compares between Wales and England is below.
Maintenance support for full-time undergraduates 2025/26 (£) |
||
Wales |
England* |
|
Living with parents |
10,480 |
8,877 |
Living away from parental home, studying in London |
15,415 |
13,762 |
Studying elsewhere |
12,345 |
10,544 |
Studying overseas |
12,345 |
12,076 |
Source: Welsh Government and UK Government regulations. |
||
* The rates for England are those available to students with a household income of less than £25,000; the value of support is reduced at incomes above this. Most students will receive less than this maximum amount. |