Mwynhewch y gwyliau a diogelu Cymru yr haf hwn yw cyngor Gweinidog yr Economi
Enjoy the holidays and keep Wales safe this summer says Economy Minister
Wrth i wyliau'r haf ddechrau, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw yn ymweld â Llyn Llys y Frân Dŵr Cymru, yn Sir Benfro, i agor yn swyddogol ei atyniad ymwelwyr a'i gyfleusterau hamdden sydd newydd gael eu hailddatblygu.
Bydd y datblygiad newydd yn hwb i economi’r ardal, gan ei fod yn darparu cyfleusterau lle y gall pobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr a gweithgareddau newydd ar y tir. Derbyniodd y prosiect gymorth gwerth £1.7 miliwn oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'r ymweliad yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ynghylch y cynlluniau i lacio cyfyngiadau COVID ymhellach yng Nghymru dros yr haf.
Dywedodd Gweinidog yr Economi: "Mae’r cyfleusterau newydd a thrawiadol hyn yn Llys y Frân yn cael eu hagor ar adeg berffaith, gyda chymaint o bobl yn cael eu gwyliau yn y DU eleni.
"Wrth inni ddechrau ar gyfnod newydd yn ystod y pandemig, mae'r Prif Weinidog wedi nodi cynllun tymor hirach newydd ar gyfer yr haf a fydd yn helpu i wella haf sydd eisoes yn mynd i fod, yn ôl pob golwg, yn haf llwyddiannus a phrysur i'r economi ymwelwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen i bob un ohonon ni gymryd camau o hyd i amddiffyn ein hunain, ac i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru.
"Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod ein hymwelwyr yn ymwybodol bod gennyn ni ein rheolau COVID ein hunain sy’n berthnasol yng Nghymru, ac y bydd y rhain, mewn rhai ffyrdd, yn wahanol i reolau sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r DU. Mae gan bob un ohonon ni ran bwysig iawn i'w chwarae i sicrhau bod Cymru, ein hymwelwyr, ein gweithwyr a'n cymunedau'n ddiogel wrth i’r haf ddechrau eleni."
Mae ymgyrch Addo Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ers i'r cyfyngiadau gael eu codi ym mis Mawrth, i annog pobl Cymru ac ymwelwyr i ofalu am ei gilydd ac i barhau i barchu’r ardaloedd cefn gwlad a'r cymunedau rydym yn ymweld â nhw.
Mae ffigurau Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru yn dangos, ar ôl yr ansicrwydd yn ystod yr 16 mis diwethaf, fod y mwyafrif (69%) o weithredwyr yn hyderus y gallant redeg eu busnes yn broffidiol am weddill y flwyddyn. Mae hefyd lefelau addawol o archebu ymlaen llaw ar gyfer yr haf gyda llawer o’r capasiti llety hunanddarpar sydd ar gael wedi cael ei archebu ar gyfer mis Gorffennaf a mis Awst. Mae busnesau wedi adrodd am lefelau uchel o ymholiadau ac archebion – gyda galw mawr am wyliau hir yma yn y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £2.5bn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn wedi'i gynllunio i ategu ac adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Yn ogystal, mae'r pecyn sy’n cynnig rhyddhad ardrethi busnes o 100% hefyd wedi cael ei estyn tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r dull wedi’i dargedu hwn, sy'n canolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau Cymru, wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi'u colli fel arall.