English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Mynnwch eich brechiad – galwch heibio am eich dos y penwythnos hwn

A Call to Arms – drop in for your dose this weekend

Bydd canolfannau brechu ar draws sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw i mewn o'r penwythnos hwn ymlaen wrth i'r Gweinidog Iechyd alw ar bob oedolyn i gael eu brechu.

Hyd yn hyn, mae 75% o bobl dan 50 oed yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf. Gall pob unigolyn sydd dros 18 oed fynd i rai canolfannau brechu i gael eu dos cyntaf o frechlyn Covid heb fod arnynt angen apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw, ac mae oedolion ifanc yn arbennig yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig hwn.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Fe ddylai pob oedolyn yng Nghymru bellach fod wedi cael cynnig y brechlyn, ond rydyn ni'n gwybod y gallai pobl fod wedi gorfod canslo eu hapwyntiadau, neu efallai eu bod wedi methu mynd iddynt, mewn rhai achosion. Rydyn ni am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu brechlyn, yn enwedig oedolion iau sydd â galwadau eraill ar eu hamser. 

"Yng Nghymru mae gennym bolisi "gadael neb ar ôl" ac mae sicrhau bod apwyntiadau galw i mewn ar gael yn ffordd arall o sicrhau bod brechiad ar gael i bob oedolyn ar amser ac mewn lleoliad sy'n gyfleus iddynt.

"Cael ein brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain o hyd ac mae angen i bawb barhau i gytuno i gael eu brechu a chofio nad yw un dos yn ddigon. Mae angen dau ddos arnom i gyd i gwblhau'r cwrs a dyma’r ffordd orau o leihau’r perygl inni gael salwch difrifol. Rwy’n eich annog yn daer i fanteisio ar y cyfle i gael brechiad i helpu i amddiffyn eich hunain a'ch anwyliaid ac i ddiogelu Cymru."

Dywedodd Tracy Meredith, Pennaeth Gweithrediadau Profi a Brechu Torfol:

"Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn ar draws canolfannau brechu yng Nghymru i sicrhau ei bod hi mor gyflym a chyfleus â phosibl i bobl, ac rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi gwneud eu rhan a dod i gael eu brechu. 

"Os ydych chi eisiau eich ail ddos yn gynharach, neu os nad ydych chi wedi cael eich dos cyntaf eto, mae'n gyfle gwych i alw heibio'r penwythnos hwn, i gael eich brechlyn a chael eich amddiffyn."

Nodiadau i olygyddion

If you think you have been missed, or cannot attend a walk-in appointment this weekend, you can find health board contact details here to rearrange your appointment.

Walk in vaccination appointments will be available at the following locations:

  • Aneurin Bevan University Health Board

Sat 3rd July:

Newport Leisure Centre, 8.30am – 4:00pm (first doses for over 18s)

Newbridge Leisure Centre, 8.30am -1:30pm (first doses for over 18s)

  • Betsi Cadwaladr University Health Board
    All Mass Vaccination Centres will accept walk-ins at all times (first doses for over 18s)
  • Cardiff and Vale University Health Board
    Bayside Mass Vaccination Centre, 8:00am – 4:00pm every Saturday and Sunday (first doses for over 18s)
    Holme View Barry, 2nd-4th July, 8:30am – 7:30pm (first doses for over 18s)

  • Cwm Taf Morgannwg University Health Board
    All Mass Vaccination Centres will accept walk-ins at all times from 5th July (first doses for over 18s)
  • Hywel Dda University Health Board
    All sites will accept walk-ins and drive throughs at all times from this week (first and second doses for over 18s)

  • Powys Teaching Health Board
    Walk in appointments are not currently offered due to high uptake and low population density, but this will be kept under review

  • Swansea Bay University Health Board
    The Immbulance at City Church, Swansea 9a,-4pm, on Saturday offering Oxford AZ to over 40s: free transport from there to the Bay Mass Vaccination Centre for those under 40
    Bay Field Hospital, Sunday 10am – 6pm (first doses for 18-39 year olds)