Neges gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop
Message from Wales Chief Veterinary Officer, Christianne Glossop
Mae llawer o bobl ledled Cymru yn cadw adar fel ieir, dofednod eraill ac adar y dŵr yn eu gerddi neu dyddynnod. Er bod llawer o’r rhain yn cael eu cadw at ddibenion cynhyrchu bwyd cedwir rhai ohonynt fel anifeiliaid anwes a gallant ddod yn rhan annwyl o'r teulu.
Mae achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn yn lledu ar draws Ewrop ar hyn o bryd ac efallai eich bod yn ymwybodol bod nifer o achosion o ffliw adar wedi’u cadarnhau mewn adar ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys tri achos yng Nghymru. Mae'n debygol y bydd y cyfnod risg hwn yn parhau hyd Gwanwyn 2022.
Cyhoeddwyd ar ddechrau mis Tachwedd fod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw Adar sy'n golygu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i geidwaid pob aderyn caeth ddilyn mesurau bioddiogelwch llym i ddiogelu eu hadar. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy'n cadw adar, p'un a ydych yn cadw haid neu os oes gennych un aderyn.
Mae Gorchymyn Lletya hefyd wedi'i gyflwyno ledled Cymru a Phrydain Fawr sy'n golygu bod yn rhaid i bob aderyn a gedwir gael ei letya mewn adeilad addas, fel sied neu adeilad allanol, neu strwythur dros dro.
Mae'n bwysig deall diben y ddau fesur hyn – caiff Ffliw Adar ei ledaenu yn niferion rhai rhywogaethau o adar gwyllt, adar y dŵr yn bennaf. Felly, mae'n hanfodol atal adar sy'n cael eu cadw rhag dod i gysylltiad uniongyrchol ag adar gwyllt a allai roi’r ffliw iddynt. Mae lletya yn cyflawni’r diben hwn.
Mae hefyd yn hanfodol atal heintiau rhag lledaenu o bethau a allai gael eu halogi gan ddiferion adar. Mae hyn yn cynnwys - dwylo, dillad, esgidiau, cerbydau a theiars, offer fel blychau wyau a chewyll, porthiant a deunydd gorwedd. Dylai eich cynllun bioddiogelwch fynd i'r afael â risgiau i'r holl ffynonellau haint posibl hyn ar gyfer eich adar. Mae gennym restr wirio bioddiogelwch i helpu ceidwaid Bioddiogelwch ac atal afiechyd mewn adar caeth | LLYW.CYMRU
Mae'r risg i iechyd pobl o'r math hwn o'r feirws ffliw adar yn isel iawn. Mae'n ddiogel bwyta cig dofednod ac wyau yn ôl yr arfer.
Os ydych chi'n cadw adar, hyd yn oed os mai dim ond un iâr ydyw, cofrestrwch ar y Gofrestr Dofednod a fydd yn eich galluogi i dderbyn y newyddion a'r cyngor diweddaraf. Bydd hyn yn eich galluogi i gymryd camau ar unwaith i ddiogelu eich adar os canfyddir achos yn eich ardal chi. Mae hefyd yn ein helpu i ddiogelu'r ardal pe bai achos yn digwydd. Os ydych yn cadw mwy na 50 o adar, rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, gofrestru eich safle yn y Gofrestr Dofednod.
Yn olaf, byddwch yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o afiechyd yn eich adar – yn eu hymddangosiad ffisegol a'u hymddygiad. Rhowch wybod i'ch milfeddyg am unrhyw arwyddion o salwch. Os bydd ceidwaid adar yn cymryd camau ar unwaith gallant helpu i leihau'r risg o haint, a hefyd atal lledaenu pellach.
Anogir aelodau o'r cyhoedd i beidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw ac yn hytrach gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77
Rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod pryderus i geidwaid adar. Mae ffliw adar yn risg fawr i'n hadar - mewn unedau masnachol a'r rhai a gedwir gan deuluoedd mewn gerddi. Gall y clefyd gael effaith drychinebus arnynt, a gall hefyd beri gofid i'w perchenogion. Gadewch i ni ddiogelu iechyd ein diadell genedlaethol a gwydnwch ein heconomïau gwledig. Trwy gydweithio, fodd bynnag, a chymryd camau sylfaenol i gadw ein hadar yn ddiogel gallwn leihau'r risg o achosion pellach.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar y Gofrestr Dofednod ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/poultry-including-game-birds-registration-rules-and-forms