Newidiadau i’r rheolau ar stop am bedair wythnos wrth i amrywiolyn delta ledaenu
Rule changes on hold for four weeks as delta spreads
Ddydd Gwener (18 Mehefin), bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd rheolau’r coronafeirws yn newid am bedair wythnos arall er mwyn helpu i ddiogelu rhag yr amrywiolyn delta newydd.
Bydd rhaglen frechu Cymru, sydd wedi bod ar flaen y gad yn rhyngwladol, yn cyflymu’r gwaith o roi ail ddosau i bobl dros y pedair wythnos nesaf – bwriedir rhoi mwy na hanner miliwn o ddosau er mwyn helpu i atal ton newydd o salwch difrifol wrth i achosion o’r coronafeirws ddechrau codi.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron 490 o achosion o’r amrywiolyn delta yng Nghymru. Mae mwy na phedwar o bob pum achos newydd o Covid yng Nghymru yn ganlyniad i’r amrywiolyn delta ac nid yw bron dwy ran o dair o’r achosion hynny yn gysylltiedig â theithio neu ddod i gysylltiad ag achos arall, sy’n awgrymu ei fod yn cael ei ledaenu yn y gymuned.
Mae cyfradd yr achosion o coronafeirws yng Nghymru wedi codi’n raddol ers diwedd mis Mai, ac mae cyfradd yr achosion positif wedi mwy na dyblu – er mai dyma’r gyfradd isaf yn y DU o hyd.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mewn ychydig wythnosau yn unig, mae amrywiolyn delta wedi cyrraedd Cymru ac wedi lledaenu drwy’r wlad yn gyflym. Mae’r cyfraddau trosglwyddo yn cyflymu, nid dim ond yn y Gogledd a’r De-ddwyrain ond ym mhob rhan o Gymru.
“Bellach, dyma’r amrywiolyn mwyaf cyffredin mewn achosion newydd yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd.
“Mae gennym ni’r cyfraddau coronafeirws isaf yn y DU, a’r cyfraddau brechu uchaf. Gallai oedi am bedair wythnos cyn llacio’r cyfyngiadau helpu i leihau’r niferoedd uchaf o dderbyniadau dyddiol i’r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo’r Gwasanaeth Iechyd yn brysur iawn yn ceisio diwallu’n holl anghenion gofal iechyd – nid dim ond trin y coronafeirws.”
Bu Llywodraeth Cymru yn adolygu sefyllfa iechyd y cyhoedd yr wythnos hon, hanner ffordd drwy’r cylch tair wythnos presennol o reoliadau, ar ôl cyhoeddi y byddai’n symud fesul cam i lefel rhybudd un. Cafodd y rheolau ynghylch gweithgareddau a digwyddiadau mwy yn yr awyr agored eu llacio ar 7 Mehefin.
Er na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r rheolau am gyfnod o bedair wythnos – caiff y rheoliadau eu hadolygu eto at 15 Gorffennaf – mae rhai diwygiadau technegol bach yn cael eu gwneud i reoliadau’r coronafeirws i sicrhau eu bod yn haws i’w deall ac yn haws i fusnesau eu rhoi ar waith.
Maent yn cynnwys:
- Bydd nifer y bobl a gaiff fynd i dderbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, a drefnir gan fusnes mewn eiddo dan do sy’n cael ei reoleiddio, megis gwesty, yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg.
- Egluro y bydd lleoliadau cerddoriaeth a chomedi bach ar lawr gwlad yn cael gweithredu ar yr un sail â lleoliadau lletygarwch, fel tafarnau a chaffis.
- Bydd hyd at 30 o blant ysgol gynradd sydd yn yr un grŵp cyswllt neu swigen yn yr ysgol aros dros nos mewn canolfan breswyl addysg awyr agored.
Bydd digwyddiadau peilot yn y sector theatr, chwaraeon ac mewn sectorau eraill hefyd yn parhau drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Yr wythnos hon, rydyn ni wedi cyrraedd y targed o gynnig eu dos gyntaf o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys, a hynny chwe wythnos yn gynnar.
“Ond fydd y cynigion hynny ddim yn helpu i ddiogelu pobl, oni bai bod pawb yn mynd i’w hapwyntiadau i gael y dos cyntaf a’r ail ddos.
“Byddwn i’n cymell pawb i dderbyn y gwahoddiad i gael y brechlyn ac i gael y cwrs llawn o ddau ddos. Dyma’r ffordd orau i ddiogelu’n hunain rhag y feirws hwn.”