Newidiadau sy’n caniatáu i fwy o deuluoedd gyfarfod
Changes to allow more families to meet up
Llywodraeth Cymru’n cyflwyno pwerau gorfodi newydd er mwyn sicrhau bod pob safle yn dilyn rheolau COVID-19
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi heddiw (Dydd Gwener 14 Awst) y bydd pobl yn gallu gweld mwy o’u teuluoedd a’u ffrindiau fel rhan o’r adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru ar yr amod y bydd y sefyllfa’n parhau’n sefydlog dros yr wythnos nesaf.
Bwriedir caniatáu’r canlynol o ddydd Sadwrn 22 Awst:
- Bydd hyd at bedwar aelwyd yn gallu dod ynghyd i ffurfio aelwyd estynedig unigol.
- Bydd hawl cynnal pryd o fwyd dan do ar gyfer hyd at 30 o bobl fel rhan o briodasau, partneriaethau sifil ac angladdau, cyn belled â bod modd cynnal pellter cymdeithasol.
Ni fydd Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn gwneud unrhyw newidiadau i’r rheolau ynghylch yr hawl i gyfarfod dan do â phobl nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu eu haelwyd estynedig. Golyga hyn na ddylai pobl ond ymweld â thafarndai, bwytai neu leoliadau eraill dan do gyda phobl o’u haelwyd neu o’u haelwyd estynedig.
Bydd diwygiadau i’r rheoliadau hefyd yn dod i rym yr wythnos nesaf er mwyn ei gwneud hi’n orfodol i fusnesau lletygarwch neu leoliadau eraill perygl uchel gasglu manylion cyswllt cwsmeriaid. Mae casglu’r wybodaeth hon yn gwbl allweddol ar gyfer strategaeth profi, olrhain a diogelu Cymru sy’n anelu at brofi’r cyhoedd ac atal lledaeniad y coronafeirws. Bydd cynnwys hyn yn y rheoliadau yn ei gwneud hi’n gwbl glir i reolwyr safleoedd ac i gwsmeriaid nad opsiwn yw casglu gwybodaeth o’r fath ond yn hytrach ofyniad.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae Cymru wedi dod ynghyd i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws ac mae’r camau yr ydym wedi’u cymryd gyda’n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae nifer yr achosion yn parhau i leihau a golyga hyn y byddwn yn gallu cyflwyno newidiadau newydd sy’n caniatáu i hyd at bedwar aelwyd ddod ynghyd a ffurfio aelwyd estynedig.
“Dyma newidiadau gofalus sy’n cael eu cyflwyno gam wrth gam. Rydym yn dysgu o’r hyn sy’n digwydd ar draws y DU ac mae’r achosion newydd sy’n codi gan fwyaf yn deillio o’r ffaith bod pobl yn cyfarfod â phobl eraill yn eu cartrefi. Dyma pam y mae hi mor bwysig sicrhau nad yw pobl yn gwahodd i’w cartrefi bobl eraill o’r tu allan i’w haelwydydd estynedig. Rydym wedi cyflawni cymaint ac mae’n bwysig nad ydym yn peryglu hyn. Golyga hyn nad ydym mewn sefyllfa lle y dylem fod yn ymweld â chartrefi unrhyw un ar unrhyw adeg. Cafodd y rheoliadau ynghylch cyfarfod yn yr awyr agored eu newid yn ddiweddar er mwyn hwyluso’r drefn. Dyma’r ffordd fwyaf diogel o gyfarfod o hyd.
“Mae’r profiad mewn rhannau eraill o’r DU lle agorodd tafarnau yn gynharach na’r hyn a ganiatawyd yng Nghymru hefyd yn dangos bod y feirws hefyd wedi lledaenu yn y mannau hyn. Er mwyn ceisio osgoi cyflwyno cyfnodau clo lleol a fyddai’n golygu bod yn rhaid i’r sector cyfan gau mae’n hollbwysig ein bod yn ymateb yn gyflym i unrhyw achosion. Bydd darparu ein manylion cyswllt wrth i ni fynychu’r lleoliadau hyn yn sicrhau bod modd i’n timau Profi, Olrhain a Diogelu gysylltu â ni ar unwaith os bydd angen.
“Er mwyn gallu parhau i atal lledaeniad y coronafeirws mae’n rhaid i bob un ohonom ddilyn y rheolau a derbyn cyfrifoldeb personol am yr hyn rydym yn ei wneud.”
“O safbwynt unigolion, mae hyn yn golygu cadw pellter o 2 fetr, golchi ein dwylo’n aml a gwisgo masgiau wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. O safbwynt busnesau, mae hyn yn golygu cymryd camau er mwyn diogelu cwsmeriaid, sy’n cynnwys cofnodi eu manylion cyswllt fel y gallwn bennu unrhyw ledaeniad o achosion. Er bod llawer o fusnesau eisoes yn casglu manylion cyswllt eu cwsmeriaid rydym yn clywed am ormod o fusnesau nad ydynt yn gwneud hyn. Byddwn felly’n cyflwyno rheoliadau newydd yr wythnos nesaf er mwyn sicrhau bod hyn yn orfodol.
“Nid yw’r pandemig yma drosodd ac mae dyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu Cymru.”
Aeth Llywodraeth Cymru ati’n ddiweddar i atgyfnerthu pwerau awdurdodau lleol o safbwynt gorfodi’r rheoliadau. Mae hyn yn galluogi swyddogion gorfodi i gyhoeddi Hysbysiadau Gwella Mangre er mwyn tynnu sylw at achosion o dorri’r Rheoliadau a phennu’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.
Os na chydymffurfir â Hysbysiad Gwella Mangre, neu os bydd achos o beidio â chydymffurfio yn ddigon difrifol, gellir cau mangreoedd drwy ddyroddi Hysbysiad Cau Mangre.
Pan fydd yr hysbysiadau yn cael eu dyroddi, bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn amlwg i roi gwybod i’r cyhoedd bod angen gwella’r fangre neu fod y fangre wedi gorfod cau.
Nodiadau i olygyddion
Extended households
- From 22nd August up to four households can come together as part of a single exclusive extended household. This will not include allowing for the dissolution of existing extended households and the reformation of a new extended household.
- People cannot invite different groups of friends or family into their homes, beyond those in their extended household.
Welsh law
- Welsh law requires measures to be taken to minimise the risk of exposure to coronavirus on these premises. This includes ensuring that people maintain a two metre distance where possible and taking other measures to avoid close interaction; this includes screens, face coverings and improving hygiene.
- Information also has to be provided to customers and staff to help them understand what they need to do in order to stay safe on the premises.