"Ni fydd ein huchelgais i Gymru yn llai oherwydd heriau ariannol" – Prif Weinidog Cymru
“Our ambition for Wales won’t be dimmed by financial challenges” – First Minister
Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth yn gwneud adduned na fydd pwysau ariannol "yn lleihau uchelgais y weinyddiaeth newydd hon i wella canlyniadau i bobl Cymru."
Bydd yn annerch cynhadledd i'r wasg yn ddiweddarach y bore yma, lle bydd yn rhybuddio bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn mynd i fod hyd yn oed yn is mewn termau real na'r flwyddyn hon.
Bydd Prif Weinidog Cymru yn dweud bod yr achos o blaid cael cyllid tecach oddi wrth San Steffan "yn fwy o fater brys fyth" o ganlyniad i heriau cyllidol. Bydd yn cyflwyno'r ddadl yn uniongyrchol i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig pan fyddant yn cyfarfod ym mis Hydref.
Bydd Rhun ap Iorwerth hefyd yn nodi cyhoeddi Adroddiad Cynnydd 100 Diwrnod Cyntaf ei lywodraeth, sy'n nodi bod yr holl weithgareddau cychwynnol a gynlluniwyd mewn perthynas â phob un o'r 96 o ymrwymiadau bellach wedi'u cwblhau.
Mae disgwyl iddo hefyd siarad am lansio'r Rhaglen Lywodraethu newydd, cynlluniau ar gyfer cydweithredu â Llywodraeth yr Alban, a darparu diweddariad ar yr Uwchgynhadledd Tanau Gwyllt a Gwydnwch sydd ar ddod.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn dweud:
"Rwy'n falch bod fy llywodraeth wedi cadw ei haddewid i bobl Cymru.
"Yn ein 100 diwrnod cyntaf, rydyn ni wedi bwrw ati heb oedi, gan osod y sylfeini ar gyfer newid a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell ym mywydau pobl. Dyna beth sydd bwysicaf.
"Bydd y pwyslais ar sicrhau bod Cymru yn symud yn ei blaen yn ystod y cyfnod nesaf hwn. Rydyn ni am ganolbwyntio nawr ar droi camau cynnar yn ganlyniadau parhaol. Byddwn ni'n tynnu rhestrau aros i lawr, sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'n Gwasanaeth Iechyd, helpu teuluoedd gyda chostau byw, creu swyddi da, codi safonau yn ein hysgolion, mynd i'r afael â thlodi plant a sefyll dros ein gwlad."