English icon English

NODYN I'R DYDDIADUR: Cynllun newydd Llywodraeth Cymru i helpu busnesau bwyd a diod i gael eu cynnyrch ar silffoedd y siopau mawr

DIARY MARKER: New Welsh Government plan to help food and drink businesses get their products on the shelves of major retailers

**ddim ar gyfer ei gyhoeddi, ei ddarlledu na’i roi ar y cyfryngau cymdeithasol **

Ddydd Mercher, 21 Gorffennaf, bydd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, yn lansio Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru.

Bydd y cynllun yn bwysig i helpu busnesau bwyd a diod ledled y wlad i feithrin a datblygu perthynas newydd â manwerthwyr iddynt gael eu cynnyrch ar eu silffoedd.

Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant a’r gobaith yw gweld gwerth trosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn tyfu’n gymharol fwy na sector y DU gyfan.

Bydd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, yn lansio’r Cynllun Manwerthu yn ystod ei hymweliad â Samosaco ym Mhont-y-clun.

Pryd: Dydd Mercher 21 Gorffennaf

Amser: 10:30am

Ble: Samosaco, Pont-y-clun, CF72 9DW

Rydyn ni’n eich gwahodd i anfon gohebydd/criw camera draw i’r digwyddiad.

Os ydych am ymuno â ni a threfnu cyfweliad, cysylltwch ag Anne Jones (anne.jones@gov.wales / 07967 692791) neu Shaun Holden (07875 384 239 / shaun.holden@gov.wales)