**NODYN I’R DYDDIADUR - Ddim i'w gyhoeddi, ei ddarlledu na'i roi ar y cyfryngau cymdeithasol** | Creu mwy na 100 o swyddi newydd yng Nglynebwy yn sgil hwb gwerth £2.5m gan Lywodraeth Cymru
Pryd: Dydd Iau 17 Mehefin – 3.45pm i 4.45pm
Ble: GS Yuasa, 22 Ystad Ddiwydiannol Rasa, Rasa, Glynebwy NP23 5SD
Gwahoddir gohebwyr a/neu weithredwyr camerâu i fod yn bresennol. Bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ar gael i'w gyfweld.
Os hoffech fod yn bresennol, cysylltwch â Robert Owen ar 07816504965 neu e-bostiwch Robert.owen009@gov.cymru
Creu mwy na 100 o swyddi newydd yng Nglynebwy yn sgil hwb gwerth £2.5m gan Lywodraeth Cymru
Mae'r gwneuthurwr batri byd-eang GS Yuasa yn creu 105 o swyddi newydd ac yn diogelu 360 o swyddi eraill yn ei ffatri gynhyrchu yng Nglynebwy diolch i hwb gwerth £2.5m gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cwmni'n un o brif weithgynhyrchwyr y byd o asid plwm a reoleiddir gan falfiau (VRLA) a batris Lithiwm. Bydd yr arian yn helpu'r cwmni i gynyddu’r cynhyrchiant a gweithredu prosesau uwchraddio fel eu bod yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.
Mae GS Yuasa yn arwain o fewn y farchnad ar gyfer ystod eang o fatris cerbydau a diwydiannol, ac mae modd eu defnyddio at ddibenion mor amrywiol â cheir a charafanau i ddiogelwch a thelathrebu.