Crown Copyright - Cadw - Children at the Roman Baths

"Pawb ar y bws!" - cludiant am ddim i ysgolion i safleoedd hanesyddol Cymru

“All aboard!” - free transport for schools to Wales’ historic sites

Mae ysgolion ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid i dalu cost trafnidiaeth i safleoedd hanesyddol Cadw, fel rhan o fuddsoddiad o £50,000 gan Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad at dreftadaeth.

Mae'r cyllid ar gael nawr drwy Gronfa Drafnidiaeth Ysgol Cadw ac mae'n galluogi ysgolion i dalu costau teithio ar gyfer ymweliadau addysgol, fel y gall mwy o ddysgwyr weld cestyll, abatai a hanes eiconig arall Cymru yn uniongyrchol.

Swm benodol o gyllid sydd ar gaela bydd yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, felly anogir ysgolion i wneud cais nawr. Mae ymweliadau addysgol hunan-arweiniol â safleoedd Cadw eisoes am ddim i grwpiau ysgol.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:

"Mae ein safleoedd yn rhai o'r ystafelloedd dosbarth mwyaf ysbrydoledig yng Nghymru, ac rydym am i bob dysgwr gael y cyfle i'w profi. Mae'r cyllid hwn yn barod ac yn agored i wneud cais ar hyn o bryd, gan ddileu'r pryder am gostau trafnidiaeth.

"Byddwn yn annog ysgolion i gyflwyno eu ceisiadau. Allwn ni ddim aros i groesawu ysgolion i safleoedd Cadw ledled Cymru."

Sut i wneud cais