C Games-3

Pob Lwc Tîm Cymru

Pob Lwc Team Wales

 Wrth i Dîm Cymru fynd i'r llwyfan chwaraeon rhyngwladol yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow, mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, a'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yn dymuno 'Pob Lwc!' iddyn nhw

Cyn y seremoni agoriadol, rhoddodd y Prif Weinidog ei ddymuniadau gorau i'r tîm wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru ar draws deg camp.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae Gemau’r Gymanwlad yn gyfle gwych i’n hathletwyr elȋt arddangos doniau chwaraeon gorau Cymru wrth iddynt gynrychioli ein gwlad ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae ein cariad at chwaraeon yn uno pobl ledled Cymru, o’r clybiau lleol i’r lefel elȋt sy’n cystadlu yn Glasgow.  Mae’r Gemau yn gyfle i ddathlu a chefnogi athletwyr presennol a hefyd i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r holl athletwyr sydd yma wedi cyflawni cymaint yn barod a bydd pobl Cymru yn eich cefnogi. Pob lwc i chi gyd!”

 Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:

"Nid yn unig bydd Tîm Cymru yn chwarae rôl bwysig yn yr arena chwaraeon, ond byddan nhw hefyd yn rhoi hwb i broffil Cymru ledled y byd.

"Mae chwaraeon yn rhan allweddol o'n hunaniaeth fel cenedl, ac mae hefyd yn dod â llawer o fanteision ar gyfer ein hiechyd a'r economi.   Dyna pam byddwn ni'n gweithio i greu a chefnogi cyfleoedd ar gyfer sicrhau rhagor o gyfleoedd i bobl gymeryd rhan yn y dyfodol"

Mae brand 'Cymru Wales' Llywodraeth Cymru wedi partneru â Thîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow, y tro cyntaf i'r brand ymddangos ar ddillad/cyfarpar athletwyr. 

Bydd y bartneriaeth yn gweld logo Cymru Wales ar lawes dillad podiwm drwy gydol y Gemau, ochr yn ochr â rhaglen ehangach o weithgareddau ar y cyd sydd wedi'u cynllunio i arddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang.