English icon English

Porthladdoedd Cymru mewn sefyllfa unigryw i ddatgloi cyfleoedd gwynt ar y môr

Welsh ports uniquely positioned to unlock offshore wind opportunity

Mae daearyddiaeth unigryw, lleoliad strategol a degawdau o arbenigedd morwrol a diwydiannol yn gosod porthladdoedd Cymru yn borth naturiol i ddatgloi potensial rhyfeddol gwynt ar y môr.

Dyna'r neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, wrth iddi lansio Prosbectws Porthladdoedd Llywodraeth Cymru yng nghynhadledd Dyfodol Ynni Cymru heddiw (7 Hydref).

Rhagwelir y bydd y sector gwynt ar y môr yn creu 29,000 o swyddi, yn sicrhau effaith economaidd o £4.5 biliwn, ac yn pweru dros bedair miliwn o gartrefi ledled Cymru erbyn 2030. Rhagwelir y bydd cyfanswm capasiti gwynt ar y môr yn cyrraedd dros 20 gigawat ledled Cymru erbyn 2045.

Wedi'i leoli lai na 50km o ardaloedd datblygu dynodedig yn y Môr Celtaidd, gydag arfordir sy'n darparu harbyrau dŵr dwfn naturiol a chadwyni cyflenwi sefydledig, mae'r Prosbectws yn dangos sut mae porthladdoedd Cymru mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar y cyfle hwn.

Mae hyn ochr yn ochr â'r cyfle presennol oddi ar arfordir gogledd Cymru, lle mae dros 500 o dyrbinau gwynt eisoes wedi'u lleoli o Borthladd Mostyn, a lle mae Cymru yn gartref i fferm wynt ar y môr cyntaf â gwaelod sefydlog yn y DU.

Mae dau Borthladd Rhydd Cymru yn darparu cymhellion treth i fuddsoddwyr, prosesau tollau symlach, a safleoedd sy'n barod ar gyfer eu datblygu, tra bod ystod eang o gymorth ariannol ar gael i gwmnïau drwy raglenni buddsoddi a seilwaith. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mewn sgiliau ynni adnewyddadwy ledled Cymru.

Wrth siarad cyn cynhadledd Dyfodol Ynni Cymru, a gynhelir gan RenewableUK Cymru yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, dywedodd Rebecca Evans:

“Mae chwyldro ynni glân y DU yn gyfle mewn cenhedlaeth i adeiladu dyfodol glanach, mwy ffyniannus i'n cymunedau wrth ddarparu'r seilwaith sydd ei angen ar Brydain ar gyfer diogeledd ynni.

“Mae Cymru wrth wraidd y trawsnewidiad ynni glân – gydag arfordir sy'n darparu harbyrau dŵr dwfn naturiol, agosrwydd at barthau les gwynt mawr, a chadwyn gyflenwi ystwyth, parod i gynyddu, rydym yn cynrychioli un o leoliadau mwyaf strategol Ewrop ar gyfer datblygu gwynt ar y môr."

“Mae ein Prosbectws Porthladdoedd yn amlinellu sut mae ein dull gweithredu o ran gwynt ar y môr yn gydweithredol, wedi'i dargedu ac yn strategol, gan sicrhau gwerth hirdymor i fuddsoddwyr a chymunedau fel ei gilydd.”

Dywedodd Ashley Curnow, Rheolwr Porthladdoedd Rhanbarthol Cymru a'r De-orllewin ar gyfer Associated British Ports:

“Mae'r Prosbectws Porthladdoedd yn tynnu sylw at rôl hanfodol ein porthladdoedd yng Nghymru wrth ddatgloi potensial gwynt ar y môr. Mae porthladdoedd Associated British Ports (ABP) yn Abertawe a Phort Talbot mewn sefyllfa unigryw i gefnogi twf gwynt ar y tir, gwynt arnofiol ar y môr a gwaelod sefydlog yn y Môr Celtaidd. Gydag agosrwydd at ardaloedd datblygu, ardaloedd mawr o dir y gellir ei ddatblygu a chysylltiadau trafnidiaeth sefydledig, maent mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu'r seilwaith a galluogrwydd y gadwyn gyflenwi ar gyfer y diwydiant hwn sy'n tyfu.”

Dywedodd Jim O'Toole, Rheolwr Gyfarwyddwr Porthladd Mostyn:

“Mae'r Prosbectws Porthladdoedd yn tynnu sylw at hanes llwyddiannus Mostyn o weithio gyda chwmnïau yn y sector gwynt ar y môr. 

“Hyd yn hyn, rydym wedi defnyddio dros 500 o dyrbinau ac rydym yn y broses o ddatblygu seilwaith glan cei amlbwrpas newydd ar gyfer prosiectau sylfaen sefydlog ac arnofiol yn y dyfodol. Mae'r Porthladd hefyd wedi caffael tir diwydiannol cyfagos yn ddiweddar i gynnig cyfleusterau gweithgynhyrchu a threfnu gwell.”

Dywedodd Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau:

“Wedi'i hybu gan gymhellion buddsoddi'r Porthladd Rhydd Celtaidd, mae Porthladd Penfro yn cynnig porth gwych i wynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd, gydag agosrwydd heb ei ail i'r safleoedd aráe arfaethedig, cyfoeth o brofiad yn y diwydiant ynni a chadwyn gyflenwi peirianneg a chodi llwythi trwm helaeth, medrus iawn. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygiadau yn y dyfodol sydd â'r potensial i greu ceiau hirach, mynediad dŵr dyfnach a chapasiti ar gyfer llwythi trymach. Rydym yn barod i gefnogi gwaith adeiladu ar gyfer gwynt arnofiol ar y môr ac angori cadwyn gyflenwi o'r radd flaenaf yng Nghymru.”

Nodiadau i olygyddion

Luciana Ciubotariu, CEO of Celtic Freeport said:

“The Welsh Ports Prospectus rightly highlights the scale of opportunity for Wales in floating offshore wind, building on the momentum of The Crown Estate’s recent Celtic Sea leasing round. Celtic Freeport is advancing FLOW terminal capacity and supply chain opportunities at Pembroke Dock and Port Talbot. Through our wider industry, innovation and education partnerships, we are accelerating major development through a combination of investment incentives and dedicated programmes to ensure Wales establishes itself as a global leader in this new industry as it takes shape.”