English icon English
Bethesda 3-2

Prif Weinidog Cymru yn ymweld â menter gymdeithasol Bethesda sy'n elwa ar fwy £200,000

First Minister visits Bethesda social enterprise as it benefits from more than £200,000

Bydd Partneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol ym Methesda, Gwynedd, yn elwa ar fwy na £200,000 o raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i drawsnewid hen ysgol yn ganolfan i'r gymuned.

Cyfarfu'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, â'r bartneriaeth ddoe [dydd Mercher 28 Gorffennaf] i ddysgu mwy am ei phrosiectau yn y dref a'r cynlluniau ar gyfer hen Ysgol y Cefnfaes. Mae'r bartneriaeth am droi'r hen ysgol yn ganolfan arloesi a chynaliadwyedd.

Bydd y ganolfan yn dod yn ased i'r gymuned ac yn dwyn ynghyd rai o'r prosiectau cyffrous yn yr ardal, gan gynnwys prosiect Tirwedd y Carneddau, gan sicrhau bod yr adeilad yn parhau i gael ei ddefnyddio.

Y nod yw cael ystafell hyfforddi a sgiliau, a naw uned ar gael i fusnesau bach eu rhentu. Bydd hefyd yn dod yn gartref i gaffi trwsio, cegin gymunedol a thŷ bynciau. 

Clywodd y Prif Weinidog am y gwaith y mae'r bartneriaeth wedi bod yn ei wneud yn ystod y pandemig, gan gynnwys dosbarthu bwyd a chefnogi busnesau bach lleol.

Dywedodd:

"Mae wedi bod yn bleser ymweld â Phartneriaeth Ogwen heddiw. Mae'r bartneriaeth yn enghraifft wych o'r hyn y gall cymuned ei gyflawni pan fyddan nhw’n cyd-dynnu.  Rwy'n falch ein bod hefyd wedi gallu cefnogi'r bartneriaeth drwy ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.  Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y mae'r cynlluniau ar gyfer yr hen ysgol yn datblygu.

"Hoffwn i ddiolch iddyn nhw a'u holl wirfoddolwyr am y gefnogaeth y maen nhw wedi bod yn ei rhoi yn ystod y pandemig i'r aelodau hynny o'r gymuned sy'n agored i niwed."

Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen:

"Roedd yn bleser dangos rhai o'n prosiectau adfywio cymunedol i'r Prif Weinidog a'i gyflwyno i'n tîm o staff a phartneriaid sy'n gweithio'n galed. Mae'n wych cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen ar y gymuned a'r sector mentrau cymdeithasol. Ac rydyn ni’n ddiolchgar i Mark Drakeford am roi o'i amser ac am ddangos diddordeb yn ein gwaith."