Welsh and Scottish First Ministers  Prif Weinidog Cymru a'r Alban 240726

Prif Weinidogion Cymru a'r Alban yn addo cydweithio agosach

Welsh and Scottish First Ministers pledge closer cooperation

Cynhaliodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf gyda Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, heddiw, gan addo cydweithredu agosach rhwng eu llywodraethau wrth frwydro dros fargen decach i'w cenhedloedd gan San Steffan.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod yn Glasgow lle mae'n cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd yng Ngemau'r Gymanwlad, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:

"Roedd yn bleser cwrdd â Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, yn Glasgow heddiw i drafod cydweithrediad agosach rhwng ein llywodraethau wrth i ni wneud yr achos dros fargen decach i'n cenhedloedd gan San Steffan. Rwy'n hyderus y gallwn adeiladu'r berthynas fwyaf cynhyrchiol a chadarnhaol rhwng llywodraeth Cymru a'r Alban ers dyfodiad datganoli.

"Fe wnaethon ni drafod ein hymrwymiad cyffredin i feithrin cysylltiadau agosach â'n bloc masnachu mwyaf, yr Undeb Ewropeaidd, trwy barhau i wneud yr achos dros ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau.

"Rwy’n awyddus i’n llywodraethau ganfod ffyrdd o ddysgu gan ei gilydd. Er enghraifft, mae fy Llywodraeth wedi cymryd ysbrydoliaeth o daliad plant trawsnewidiol yr Alban ac roeddwn yn falch o ddiweddaru’r Prif Weinidog ar sut ydyn ni'n bwrw ymlaen â Cynnal – ein cynllun peilot taliad plant yng Nghymru - a fydd yn rhoi £10 yr wythnos i deuluoedd sydd fwyaf mewn angen, wrth i ni barhau i wneud yr achos o blaid datganoli pwerau lles fel sydd gan yr Alban.

"Roeddwn yn falch o longyfarch John Swinney ar lwyddiant yr Alban yn cynnal Gemau’r Gymanwlad, ac fel arweinwyr llywodraethau rhyngwladol balch, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n gilydd i arddangos y gorau o'n cenhedloedd i'r byd ac i sicrhau eu bod bob amser yn cael eu trin gyda'r parch a'r tegwch y maent yn eu haeddu."