‘Proffesiynoldeb, uchelgais, hygrededd ac empathi’ – y Prif Weinidog yn amlinellu’r egwyddorion yng nghyfarfod cyntaf y Cabinet
‘Professionalism, ambition, credibility and empathy’ – FM outlines principles in first Cabinet meeting
Mae Cabinet newydd Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod am y tro cyntaf y prynhawn yma, ar ôl i’r Gweinidogion gael eu penodi i’w rolau newydd yr wythnos diwethaf.
Wrth siarad â’i gydweithwyr yn y Cabinet, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:
“Ar ddiwrnod hanesyddol i Gymru, braint yw eistedd o amgylch y bwrdd yma gyda chi. Mae'n fraint cael arwain tîm a fydd, dw i’n gwybod, yn gweithio’n galed bob dydd i wella bywydau pobl Cymru.
"Dw i am i’r pedair blynedd nesaf gael eu diffinio gan bedair egwyddor - proffesiynoldeb, uchelgais, hygrededd ac empathi. Dw i’n gofyn i bob un ohonoch chi gadw’r egwyddorion hynny mewn cof yn eich gwaith bob dydd, a dw innau’n addo gwneud yr un peth.
"Mae’r heriau’n fawr ac mae’r amser yn brin. Ond, dw i eisoes wedi fy nghalonogi gan y ffordd rydyn ni wedi symud mor gyflym i ddechrau troi ein gweledigaeth yn realiti ac i danlinellu’r holl ffyrdd mae’r weinyddiaeth hon yn dod ag egni newydd, syniadau newydd ac arweinyddiaeth newydd.”
Amlinellodd y Prif Weinidog ei chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer llywodraethu, a fydd yn cael eu defnyddio i fesur llwyddiant y llywodraeth yn ystod ei chyfnod mewn grym:
- Torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol;
- Helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon;
- Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda;
- Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu;
- Mynd i'r afael â thlodi plant;
- Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan.