English icon English

Profiadau byw, diogelwch a lles wrth wraidd diogelwch adeiladau yng Nghymru

Lived experiences, safety and wellbeing at the heart of building safety in Wales

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, ddiweddariad ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru yn y Senedd.

Roedd y diweddariad yn cynnwys y cynnydd a wnaed i ddiwygio dyluniad, adeiladwaith a meddiannaeth adeiladau yn ogystal â diweddariad ar y cynnydd tuag at atgyweirio adeiladau yng Nghymru.

Wrth annerch y Siambr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Rydym wedi cyflwyno rheoliadau llymach o adeiladau risg uwch, yn ogystal â system reoleiddio newydd ar gyfer cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn rheoli adeiladu, gan gynnwys archwilwyr rheoli adeiladu ac arolygwyr adeiladu sy'n gweithio yn y sector preifat ac awdurdodau lleol.

"Bydd cam nesaf y diwygiadau i'r drefn rheoli adeiladu yng Nghymru yn ymdrin â rolau Deiliaid Dyletswydd, Pyrth, Llinyn Aur o Wybodaeth, Adroddiadau Digwyddiad Gorfodol a Hysbysiadau Cydymffurfiaeth a Stopio. Mae ymgynghoriad ar y diwygiadau hyn wedi'i drefnu ar gyfer gwanwyn 2025."

Ar hyn o bryd mae 407 o adeiladau yn Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru. Mae 43% o'r adeiladau hyn naill ai wedi'u cwblhau, mae gwaith ar y gweill neu nid oes angen gwaith diogelwch tân arnynt.

Mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar 37% o adeiladau ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r 20% sy'n weddill i nodi anghenion atgyweirio.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y bydd y Bil Diogelwch Adeiladau yn cael ei gyflwyno cyn toriad yr haf 2025.

Bydd y Bil yn sefydlu trefn newydd yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar y cyfnod meddiannaeth a bydd yn ymdrin â rheoleiddio risgiau diogelwch adeiladau mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cyflwyno Person Cyfrifol, a fydd yn gyfrifol am asesu a rheoli risgiau diogelwch adeiladau yn yr adeiladau hyn.

Bydd Awdurdodau Lleol yn rheoleiddio'r drefn cyfnod meddiannu newydd, gan gynnwys cynnal y gofrestr o adeiladau o fewn y cwmpas, a byddant yn gweithio gydag Awdurdodau Tân ac Achub a fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio llawer o'r mesurau diogelwch tân a fydd yn rhan o'r Bil.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei blaen: "Rwyf am sicrhau bod y drefn newydd yn grymuso preswylwyr drwy roi eu profiad byw, eu diogelwch a'u lles wrth wraidd eu bywydau.

"Bydd y drefn yn nodi gofynion clir i gefnogi trigolion sydd â hawliau gwell a llais cryfach mewn materion sy'n effeithio ar eu cartrefi."

I gefnogi'r dull hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil annibynnol i ymgysylltu â thrigolion o'r sectorau cymdeithasol a phreifat, sy'n byw mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. 

Mae'r canfyddiadau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd gosod preswylwyr wrth wraidd ein cynigion i ddiwygio diogelwch adeiladau.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y Rhaglen Diogelwch Adeiladau dderbyn diweddariadau rheolaidd trwy gofrestru ar gyfer y Cylchlythyr Diogelwch Adeiladu.

ENDS