English icon English

Prosiect newydd yr Urdd yn helpu pobl ifanc yn India

New Urdd project will help young people in India

Ar ôl cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae'r Urdd yn mynd ati heddiw i lansio rhaglen lle bydd pobl ifanc o Gymru yn helpu i fynd i'r afael â thrais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn India.

Gan weithio mewn partneriaeth â Her Future Coalition (HFC),  bydd y rhaglen yn galluogi gwirfoddolwyr 18-25 oed o Gymru i gymryd rhan mewn rhaglenni addysg a chymorth i blant a phobl ifanc yn Kolkata sydd mewn perygl mawr. 

Bydd gwahoddiad i gynrychiolwyr o India ymweld â Chymru, a byddant yn cael eu croesawu gan yr Urdd y flwyddyn nesaf.

Mae'r fenter yn cael ei lansio yn ystod blwyddyn Cymru yn India, a ddechreuodd ar 1 Mawrth 2024 ac sy'n hyrwyddo gweithgareddau i gryfhau'r berthynas rhwng India a Chymru.

Dywedodd Vaughan Gething, y Prif Weinidog:

"Yr Urdd yw ein sefydliad ieuenctid hynaf, ac mae ganddo hanes balch o fynd ati i ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

“Mae trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn dal i fod yn un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, ac mae creu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc nad yw trais a cham-drin byth yn dderbyniol yn un o flaenoriaethau pwysicaf fy Llywodraeth. Bydd y prosiect yn rhoi profiadau gwerthfawr i wirfoddolwyr ifanc o Gymru a bydd hefyd o fudd i bobl ifanc yn Kolkata drwy helpu i fynd i'r afael â'r broblem.”

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

“Rydym yn hynod falch o’r bartneriaeth hon rhwng yr Urdd a Her Future Coalition.  Mae eu hymrwymiad i ferched ifanc bregus yn wirioneddol ysbrydoledig.  Lansiwyd ein prosiect #FelMerch er mwyn grymuso merched Cymru, ac rydym yn llwyr gefnogol o waith Her Future Coalition i sicrhau newid parhaol yn India. 

“Ugain mlynedd yn ôl, sefydlodd yr Urdd bartneriaeth gyda dinas ac elusennau Kolkata. Edrychwn ymlaen at ailddechrau ein rhaglenni gwirfoddoli rhyngwladol trwy fynd â grŵp o lysgenhadon ifanc i India ym mis Chwefror 2025 er mwyn cefnogi rhaglenni a phrosiectau Her Future Coalition.  Nid yn unig ydan ni’n mynd i India i rannu gwybodaeth a phrofiad, ond mi ydan ni hefyd yn mynd yno i ddysgu a chael ein hysbrydoli gan eu gwydnwch, agwedd gadarnhaol a chreadigrwydd. Er gwaethaf popeth, maen nhw’n llwyddo i greu llwybrau hunangynhaliol ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Sarah Symons, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Her Future Coalition:

“Rydyn ni wrth ein bodd â'r bartneriaeth newydd 'ma gyda'r Urdd. Rydyn ni'n llawn cyffro am y cyfle 'ma i ddysgu oddi wrth un o sefydliadau ieuenctid hynaf, mwyaf, a mwyaf dylanwadol y byd, i rannu diwylliant ac arferion gorau, ac i groesawu gwirfoddolwyr benywaidd ifanc a fydd yn siŵr o ddifyrru ac ysbrydoli'n merched yn Kolkata. ”

Nodiadau i olygyddion

  • Mae'r Urdd yn gwahodd ceisiadau oddi wrth fenywod ifanc rhwng 18 a 25 oed sy'n awyddus i wirfoddoli am bythefnos mewn 3 phrosiect sy'n gweithio gyda phlant a menywod ifanc yn rhanbarth Kolkata yn India.
  • Byddant yn cynnal gweithdai, gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, yn ogystal â chynnal prosiect mentora gyda phobl ifanc yn eu harddegau, yn ogystal â rhannu'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
  • Bydd y manylion am sut i wneud cais i'w gweld ar wefan yr Urdd o ddydd Gwener 31 Mai ymlaen: www.urdd.cymru/india
  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 19 Gorffennaf 2024.