Prosiectau a noddir gan Lywodraeth Cymru yn helpu Fferm Odro Rhual
Rhual Dairy Farm in Mold benefiting from Welsh Government funded projects
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths wedi ymweld â Fferm Odro Rhual ger yr Wyddgrug i weld sut mae’r prosiectau y mae Llywodraeth Cymru’n eu noddi yn helpu busnesau.
John ac Anna Booth sy’n rhedeg y fferm a dyma’r gyntaf o bum fferm odro strategol i gael ei lansio yng Nghymru. Mae’r fferm yn rhan hefyd o Herd Advance.
Mae’r ddau brosiect yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru gwerth £6.5m i wella’r diwydiant godro. Y Rhaglen Datblygu Gwledig sy’n ei hariannu a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddol a Garddwrol (AHDB) sy’n ei rhedeg.
Mae Herd Advance yn helpu rhyw 500 o ffermwyr godro yng Nghymru i gryfhau perfformiad eu busnes trwy roi cymorth ariannol a thechnegol er budd iechyd a lles eu gwartheg trwy wella mesurau atal a rheoli clefydau.
Fel fferm odro strategol, cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal yn Rhual cyn y pandemig i rannu arferion da a phrofiadau. Mae John ac Anna yn gobeithio ailddechrau eu cynnal cyn bo hir, os bydd hi’n ddiogel gwneud hynny.
Mae Rhual yn fferm 220ha o faint, gyda buches o 336 o Holstein Friesians sy’n bwrw eu lloi trwy’r flwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Roedd yn bleser cael ymweld â Rhual a chlywed angerdd John ac Anna dros ffeindio ffyrdd i wella’u busnes.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a datblygu sector amaethyddol llewyrchus a chynaliadwy yng Nghymru ac mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Rhual yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei wneud.
“Mae prosiectau’r AHDB y mae’r fferm yn rhan ohonyn nhw, yn helpu i wneud ffermydd godro Cymru’n fwy effeithiol, proffidiol, cynaliadwy a chydnerth.
“Rwy’n dymuno’r gorau i John ac Anna, yn awr ac yn y dyfodol ac rwy’n disgwyl ymlaen at glywed sut mae’r fferm yn para i ffynnu.”
Dywedodd John Booth, yn Rhual, “Roedden ni wrth ein bodd pan ofynnodd yr AHDB inni fod yn fferm odro strategol. Mae cael bod yn rhan o’r rhaglen wedi rhoi’r cyfle i ni gael mwy o gyngor a help gan arbenigwyr yn y diwydiant a chan ffermwyr eraill.
“Rwy’n gobeithio y gwnaiff y bobl ddaeth i’r digwyddiadau ar y fferm yn gallu elwa ar y trafodaethau.”
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Llaeth AHDB, Peter Rees, “Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwaith y mae AHDB yn ei wneud gyda ffermwyr godro ledled Cymru.
“Mae’r arian yn ein galluogi i helpu ffermwyr i ddysgu ffermwyr a pharhau i wella iechyd a lles anifeiliaid ar ffermydd ac ar draws y diwydiant.”