English icon English

Prosiectau arbed ynni yn y sector cyhoeddus yn cael £107m - mwy nag erioed

Record £107m for energy-saving public sector projects

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES) wedi neilltuo £107.7 miliwn o grantiau, mwy nag erioed, i helpu sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru i gynnal prosiectau arbed ynni. 

Mae WGES yn sicrhau bod sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru ar flaen y gâd ar y daith i sero net drwy neilltuo grantiau drwy nifer o gynlluniau i leihau cost prosiectau arbed ynni. 

Cyhoeddwyd manylion y buddsoddiad hwn, y mwyaf erioed, yn adroddiad blynyddol 2024-25 y Gwasanaeth Ynni, gyda grantiau'n cael eu neilltuo i 233 o brosiectau mewn 45 o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, prifysgolion, gwasanaethau tân a sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. 

Mae'r prosiectau'n cynnwys gosod pympiau gwres o'r aer, paneli haul ar doeon, goleuadau rhad-ar-ynni a phwyntiau gwefru a phrynu cerbydau trydan. 

Mae'r buddsoddiad yn gam bras at wireddu uchelgeisiau ynni glân Cymru ac yn sicrhau manteision amgylcheddol sylweddol, gan olygu rhyw 28,487 tunnell yn llai o allyriadau CO2e – sy'n cyfateb i ôl troed carbon blynyddol tua 10,000 o gartrefi yn y DU. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn Ysgol Brynhyfryd, Sir Ddinbych, yn ddiweddar: Derbyniodd yr ysgol Grant Gwres Carbon Isel o fwy na £185,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru yn 2023 i osod pympiau gwres a phaneli haul, gan arbed tua 28 tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weindidog:

"Mae taith drawiadol Ysgol Brynhyfryd tuag at sero net yn haeddu cael ei chanmol. Mae'r prosiect yn enghraifft wych o bŵer cydweithio - rhwng yr ysgol, Cyngor Sir Ddinbych a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Mae'n dangos yr hyn sy'n bosib ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd gyda phwrpas a phenderfyniad clir."

"Mae'n galonogol gweld effeithiau ein grant ar draws y sector cyhoeddus, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y momentwm hwn - nid yn unig gydag ynni adnewyddadwy a gwelliannau i wneud adeiladau'n fwy ynni-effeithlon fel pympiau gwres a phaneli haul, ond hefyd mewn meysydd fel trafnidiaeth gynaliadwy a ffynonellau gwres carbon isel." 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

"Rwy'n falch iawn o weld cyrff sector cyhoeddus Cymru ar flaen y gâd o ran lleihau allyriadau carbon tra'n arbed costau sylweddol yr un pryd i'r trethdalwr. 

"Mae'r buddsoddiad mwyaf erioed hwn yn dangos ein hymrwymiad i greu Cymru lanach a mwy gwydn ar gyfer y cenedlaethau i ddod."