Rhaglen sy'n datblygu peirianwyr y dyfodol yng Nghymru i gael £1.2m ychwanegol
Programme developing Wales’ engineers of tomorrow to be expanded with £1.2m
Cyn hir, bydd mwy o blant yn elwa ar raglen sydd â'r nod o ysbrydoli a datblygu peirianwyr y dyfodol yng Nghymru, diolch i fuddsoddiad o £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid yn ehangu'r rhaglen Canolfannau HiVE (Peirianneg Gwerth Uchel) sy'n cael ei darparu mewn partneriaeth â Choleg Gwent a'i hariannu drwy'r Raglen y Cymoedd Technoleg.
Bydd y gwaith ehangu yn golygu bod ysgolion ychwanegol ym mwrdeistref sirol Caerffili, Torfaen a Mynwy yn elwa ar y cynllun STEM, sy'n darparu offer roboteg ar gyfer ystafelloedd dosbarth ac cyflwyno dysgwyr i beirianneg o oed ifanc.
Sefydlwyd y Canolfannau HiVE cyntaf ym Mlaenau Gwent yn 2021, ac ychwanegwyd rhagor trwy gydol 2022/23.
Bellach mae ysgolion newydd yn ymuno â’r rhaglen ar gyfer 2024/25 – gan gynnwys Ysgol Uwchradd Islwyn, Ysgol Abersychan ac Ysgol Cil-y-coed – ac felly bydd 14 ysgol uwchradd a 55 ysgol gynradd i gyd ar draws y rhanbarthau yn Ganolfannau HiVE.
Mae'r fenter yn gysylltiedig â'r cyfleuster addysg HiVE o'r radd flaenaf sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yng Nglyn Ebwy a fydd yn hyfforddi myfyrwyr Coleg Gwent mewn disgyblaethau peirianneg uwch.
Ymwelodd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, â'r Ganolfan HiVE presennol yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr i ddathlu'r Diwrnod Peirianneg Cenedlaethol heddiw [Tachwedd 13].
Meddai:
"Mae'r rhaglen Canolfannau HiVE yn ymdrech gydweithredol gyda nifer o sefydliadau'n cydweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran dysgu a diddordeb mewn pynciau STEM ar draws Cymoedd De Cymru.
"Mae ein cefnogaeth i addysg a sgiliau STEM yn hanfodol i'n huchelgais ar gyfer economi fwy arloesol a chynhyrchiol yng Nghymru.
"Fel cyn-beiriannydd fy hun, rwy'n deall cymaint y bydd y cyfleoedd a'r sgiliau sydd ar gael yn yr Hybiau HiVE arloesol hyn yn golygu i gymaint o'r genhedlaeth nesaf o beiriannwr.
"Roeddwn yn falch iawn o gael cwrdd â rhai o sêr STEM y dyfodol yng Nglyn Ebwy, a chyhoeddi bod y rhaglen bwysig hon yn ehangu. Rydym am i Gymru fod yn genedl lle nad oes rhwystrau o ran mynediad at gyfleoedd STEM ar bob lefel o addysg."
Dywedodd Dan Wooldridge, Pennaeth Ysgol Coleg Gwent:
"Bydd ehangu ein rhaglen hybiau HiVE yn ein helpu i sbarduno diddordeb cynnar mewn peirianneg ymhlith mwy o ddysgwyr ifanc, gan eu hysbrydoli i ystyried llwybrau dilyniant i HiVE.
"Yma, yng Ngholeg Gwent, rydym yn benderfynol o baratoi'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr mewn cyfleuster arbenigol a fydd yn rhoi mynediad i ddysgwyr at y dechnoleg a'r arloesedd diweddaraf sy'n adlewyrchu safonau'r diwydiant.
"Testun balchder i ni yw ein bod bod yn cymryd camau breision wrth fynd i'r afael â'r galw cynyddol am sgiliau STEM yn yr ardal leol. Drwy godi ymwybyddiaeth o beirianneg o oedran cynnar, rydym yn sicrhau bod gan ddarpar beirianwyr yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i adeiladu dyfodol llwyddiannus yma yn Ne Cymru."