English icon English
PO 200521 Miles 25-2

Rhagor o gymorth i fwrw ymlaen â diwygio'r cwricwlwm

More support to press on with curriculum reform

Cadarnhaodd Jeremy Miles heddiw y bydd yn rhoi cymorth ychwanegol i ysgolion er mwyn ei gwneud yn bosibl i fomentwm y gwaith o gyflwyno ein Cwricwlwm newydd i Gymru barhau ac iddo gael ei roi ar waith yn raddol o fis Medi 2022 ymlaen mewn ysgolion cynradd a lleoliadau meithrin nas cynhelir.

Gan gydnabod yr heriau penodol a wynebir gan ysgolion uwchradd, yn cynnwys rheoli system newydd ar gyfer asesu a chefnogi cymwysterau yn ystod y pandemig, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai ysgolion uwchradd yn cael dewis parhau â'u cynlluniau presennol i ddechrau yn 2022 gyda Blwyddyn 7 neu i ddechrau yn 2023 gyda Blynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd.

Cadarnhaodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y cynlluniau canlynol:

  • Sefydlu Rhwydwaith Cenedlaethol - corff a arweinir gan ymarferwyr, sy'n agored i bob ysgol, a fydd yn cefnogi rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith,
  • Rhoi £7.24 miliwn i ysgolion i gefnogi eu cynlluniau ar gyfer diwygio'r cwricwlwm, gan gynnwys ymgysylltu â'r Rhwydwaith Cenedlaethol,
  • Dileu'r gofyniad i gynnal asesiadau ar ddiwedd y cyfnod sylfaen a diwedd cyfnodau allweddol ym mlwyddyn academaidd 2021-2022, ar gyfer grwpiau blwyddyn a fydd yn trosglwyddo i'r cwricwlwm newydd ym mis Medi 2022.
  • Diweddaru’r ddogfen 'Cwricwlwm i Gymru: Y daith hyd at 2022', gan gydnabod y cyd-destun presennol a'r gwahanol fannau cychwyn a fydd gan lawer. Bydd yn darparu siop un stop gynhwysfawr ar gyfer ysgolion a lleoliadau.

Dywedodd Jeremy Miles,

"Fy mlaenoriaeth yw rhoi lles a chynnydd dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i chwyldroi safon y cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ac rwy'n benderfynol nad ydym am golli'r cyfle hwnnw.

"Mae fy nhrafodaethau â’r sector wedi’i gwneud yn amlwg i mi bod awydd cryf o hyd am ddiwygio. Rwy’n benderfynol ein bod yn adeiladu ar y pwyslais ar les a hyblygrwydd a ddangoswyd dros y flwyddyn ddiwethaf a bod hynny’n cyd-fynd yn agos â chyflwyno ein cwricwlwm newydd. Rwy'n cadarnhau heddiw felly y bydd Cwricwlwm Cymru yn parhau i gael ei roi ar waith mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir, a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022 ymlaen. 

"Rwy'n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm. Rwy’n deall y pryderon hyn, ac wedi penderfynu darparu hyblygrwydd ychwanegol i ysgolion lle maent yn barnu bod arnynt ei angen. Yn 2022, gall ysgolion sy'n barod i gyflwyno'r cwricwlwm i Flwyddyn 7 wneud hynny, ond ni fydd hyn yn orfodol tan 2023, pryd y gellid ei gyflwyno i Flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd.

"Byddwn yn annog ysgolion uwchradd sy'n gallu rhoi eu cwricwla newydd ar waith ym Mlwyddyn 7 o 2022  i symud ymlaen gyda'u cynlluniau, gyda chefnogaeth eu consortia rhanbarthol. Bydd y fframwaith "Beth rydym yn ei Arolygu", a gyhoeddwyd gan Estyn yn ddiweddar, yn gwneud yr hyblygrwydd hwn yn bosibl i ddarparwyr a bydd Estyn yn annog cynnydd ar hyd taith diwygio'r cwricwlwm ar gyfer ysgolion uwchradd.

"Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm. Rhaid i'n system gymwysterau gyd-fynd â’r uchelgais gyffrous y tu ôl i'n cwricwlwm. Bydd yr hyblygrwydd i ysgolion uwchradd yn 2022 yn rhoi cyfle i'r sector weithio'n agos gyda Chymwysterau Cymru dros y flwyddyn i ddod i gyd-lunio set o gymwysterau o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd ag athroniaethau'r cwricwlwm newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg wrth ystyried dulliau asesu."

Y tu hwnt i 2023, bydd cyflwyno Cwricwlwm Cymru yn dilyn o flwyddyn i flwyddyn, a dyfernir y cymwysterau cyntaf a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ym mlwyddyn academaidd 2026-27, yn ôl y bwriad.