Rhagor o safleoedd ar gyfer y Goedwig Genedlaethol
Tree-mendous new total for National Forest sites
Mae gan y Goedwig Genedlaethol bellach fwy na 100 o safleoedd ledled Cymru.
Gwnaeth yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies enwi chwe safle newydd yr wythnos hon pan ymwelodd â safle Coed y Bont ger Tregaron a chwrdd â gwirfoddolwyr yno.
Bydd cynllun statws Coedwig Genedlaethol Cymru yn creu rhwydwaith o goetiroedd ar hyd a lled Cymru gydag ecosystemau'n cysylltu â'i gilydd.
Y chwe safle newydd gafodd eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd y Cabinet oedd:
- Castle Copse yn y Fenni
- Coed Cwm George a Casehill yn Ninas Powys
- Castell y Waun, Wrecsam
- Coed Cwningar (Warren Wood) ym Mhowys
- Coed Rhyal ym Mae Caerfyrddin
- Coed Cwm Penlle'r-gaer ger Abertawe
Dywedodd Mr Irranca-Davies: "Roedd yn wych cael ymweld am y tro cynta ag un o safleoedd y Goedwig Genedlaethol a chwrdd â'r gwirfoddolwyr a dysgu am y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud yn yr ardal.
"Roedd yn bleser mawr hefyd cael cadarnhau'r chwe safle newydd fydd yn ymuno â'r rhwydwaith, gan ddod â'r cyfanswm i dros 100.
"Ein huchelgais yw cael mwy ohonyn nhw ledled Cymru, y gall pawb eu mwynhau.
"Byddwn yn annog safleoedd eraill i ymuno â'n Coedwig Genedlaethol er mwyn i ni allu ehangu ein rhwydwaith o goetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi'u dylunio a'u rheoli'n dda. Bydd yn gyfle i agor mwy o fannau awyr agored, sy'n dda i'n lles ac yn creu swyddi gwyrdd newydd."
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'n hyfryd gweld y Goedwig Genedlaethol yn tyfu a chael croesawu'r grŵp nesaf hwn o goetiroedd i'r rhwydwaith.
"Yr argyfyngau hinsawdd a natur yw dau o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu. Mae creu a gwella coetiroedd yn gamau allweddol y gallwn eu cymryd i helpu natur a gall fod yn sbardun allweddol i liniaru'r hinsawdd.
"Mae pob coetir sy'n rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn cynnig rhywbeth unigryw - o ardaloedd gwarchodedig sy'n gynefin pwysig i'n bywyd gwyllt, i'r rhai sy'n cynnig mannau gwyrdd gwerthfawr i bobl eu mwynhau.
"Mae'r Goedwig Genedlaethol yn perthyn i ni i gyd, ac rydym yn annog perchnogion coetiroedd i siarad â'n tîm o swyddogion cyswllt i gael cyngor a help."
Gall coetiroedd bach mewn trefi, coetiroedd cymunedol, coetiroedd ar dir preifat a ffermydd a darnau eang o dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau neu fusnesau cynhyrchu coed ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd | LLYW.CYMRU
DIWEDD