Rhaid bod yn uchelgeisiol ac eang ein gorwelion wrth ddelio â Theithio Llesol
We need to think big and show ambition on Active Travel
Mae canllaw newydd i helpu awdurdodau lleol i gynllunio, dylunio a darparu llwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel ledled Cymru wedi’i lansio heddiw [Gwener, 16 Gorffennaf].
Mae’r Canllaw i’r Ddeddf Teithio Llesol yn dod â chyngor blaenorol a’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghyd ac yn disgrifio’n glir yr hyn y mae disgwyl i gynghorau ei wneud wrth baratoi seilwaith newydd gydag arian Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £75m mewn teithio llesol eleni yn unig – mwy fesul pen nag unrhyw wlad yn y DU – i ddarparu llwybrau teithio llesol o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru, er mwyn iddynt deimlo’n ei bod hi’n ddiogel gadael eu ceir a beicio neu gerdded.
Mewn arolwg diweddar gan Beaufort ar ran Llywodraeth Cymru, gwelwyd bod bron hanner (49%) y bobl a holwyd yn poeni nad yw’r ffyrdd yn ddiogel ar gyfer beicwyr, a bod 59% o rieni’n teimlo nad oedd hi’n ddiogel i’w plant feicio ar ffyrdd lleol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth, Lee Waters:
“Rydyn ni’n gwybod bod cael pobl ma’s o’u ceir ar gyfer teithiau byr i gerdded a beicio yn amcan uchelgeisiol, ond os ydyn ni am daro’r nod o fod yn ddi-garbon net erbyn 2050, rhaid gweithredu nawr.
“Mae cael y seilwaith iawn yn ei le yn allweddol i annog mwy o bobl i deimlo’n ddiogel i gerdded a beicio a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi arian mawr mewn teithio llesol eleni.
“Mae’r canllaw dwi wedi’i gyhoeddi heddiw’n esbonio sut ydym yn disgwyl i gynghorau gymryd camau uchelgeisiol a beiddgar i ddatblygu seilwaith newydd, i gael mwy o bobl i deimlo’n hyderus i newid y ffordd y maen nhw’n teithio, er lles eu hiechyd a’u lles ac i leihau eu heffaith ar ein hamgylchedd.”