English icon English
PO 100621 JAMES 23-2

Rhaid i ni barhau i ddilyn y wyddoniaeth, meddai’r Gweinidog newydd ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd

We must keep following the science, says new Climate Change Minister

Mae'r Gweinidog newydd ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud y bydd gan Raglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru ffocws canolog ar yr amgylchedd gan rybuddio "bydd angen i ni i gyd wneud llawer mwy i leihau ein hallyriadau carbon yn ystod y 10 mlynedd nesaf nag ydym wedi’i wneud yn ystod y 30 mlynedd diwethaf".

Wrth siarad ar ymweliad i gwrdd â disgyblion ysgol yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, bydd Julie James yn dweud: "Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gostwng lefelau allyriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nawr mae'n rhaid i ni fynd ymhellach a symud yn gyflymach os ydym eisiau llwyddo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"I wneud hynny mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol a bod yn barod i fod yn feiddgar."

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu yn gynnar yr wythnos nesaf. Bydd yn rhaglen uchelgeisiol a radical i wella bywydau pobl ledled Cymru.

Pan ddatgelodd y Prif Weinidog ei gabinet newydd, nododd yn glir y bydd yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd 'wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau', gan greu 'uwch-Weinyddiaeth' newydd i gydgysylltu'r meysydd polisi mawr i helpu Cymru i gyrraedd ei tharged cyfreithiol o sicrhau Sero Net erbyn 2050.

Am y tro cyntaf, mae trafnidiaeth, cynllunio, tai ac ynni wedi’u dwyn ynghyd i gyd mewn un Weinyddiaeth – ynghyd â'r amgylchedd – gyda dau Weinidog yn cydweithio i sicrhau newid parhaol.

Bydd y Gweinidog ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd Julie James a'r Dirprwy Weinidog ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd Lee Waters yn rhoi'r amgylchedd wrth wraidd popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ystod y pum mlynedd nesaf, yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf sydd ar gael.

Ond byddant hefyd yn annog pawb yng Nghymru i chwarae rhan yn y newidiadau y gallwn eu gwneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd â gwella ein hiechyd, bod o fudd i'r economi leol a diogelu tirweddau a byd natur hardd Cymru.

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd: "Yn ystod y pandemig rydym wedi gwneud newidiadau mawr i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau oherwydd ein bod wedi dilyn y wyddoniaeth.

"Mae angen i ni fabwysiadu'r un dull o ymdrin â newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr y byd yn dweud wrthym yn gwbl glir bod angen i ni leihau allyriadau ar frys."

"Wrth i dymheredd y byd godi, oherwydd newid yn yr hinsawdd, mae tywydd eithafol wedi digwydd yn amlach yng Nghymru. Yn 2020 gwelwyd y mis Mai mwyaf heulog a'r mis Chwefror gwlypaf ers dechrau cadw cofnodion.

"Mae’r gwyddonwyr yn glir y gallwn ddisgwyl mwy o hyn, gan effeithio ar bob rhan o Gymru drwy lifogydd yn ystod y gaeaf, sychder yn yr haf, stormydd ffyrnicach a lefelau'r môr yn codi o ganlyniad uniongyrchol i'r nwyon tŷ gwydr rydym yn eu rhyddhau."

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd: "Yn union fel rydym i gyd wedi gwneud newidiadau wrth i ni addasu i bandemig Covid, gallwn weld manteision mawr o wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau i ymateb i newid yn yr hinsawdd.

"Mae ffyrdd tawelach, aer glanach, llai o sŵn a chysylltiad agosach â natur i gyd yn bethau rydym wedi'u gwerthfawrogi yn ystod y 15 mis diwethaf a dydyn ni ddim eisiau eu gweld yn dod i ben.

"Does dim rhaid i wneud newidiadau i'n bywydau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd fod yn boenus – gallant ddod â manteision i ni i gyd."