‘Rhan hanfodol’ gan ddeddfwriaeth newydd wrth ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru
New legislation will play ‘crucial role’ in protecting Wales’ natural environment
Mae cyfraith newydd i ddiogelu bioamrywiaeth a gwella lles pobl Cymru wedi'i chyflwyno heddiw.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am y Newid yn yr Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, y byddai gan Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 'ran hanfodol' wrth ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru.
Ymhlith prif elfennau'r Bil y mae:
- Sicrhau bod Gweinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn egwyddorion amgylcheddol ac yn ystyried diogelu'r amgylchedd bob amser wrth lunio polisi.
- Sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru i gadw golwg annibynnol ar sut mae pawb yn cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol yng Nghymru, yn ei chymhwyso ac yn ei rhoi ar waith. Bydd ei gwaith yn cynnwys sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus, fel Llywodraeth Cymru, CNC ac awdurdodau lleol, yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn ei rhoi ar waith.
- Rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru osod targedau bioamrywiaeth uchelgeisiol sy'n sbarduno gweithredu i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Yn benodol, trwy gynyddu niferoedd rhywogaethau brodorol, gwneud ecosystemau'n fwy gwydn a chryfhau amrywiaeth enetig.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Gwefr i mi yw cael cyflwyno'r Bil hwn i'r Senedd heddiw. Mae'n ddeddfwriaeth hanfodol a bydd yn rhoi'r grym i ni allu mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, diogelu ein hamgylchedd rhag niwed a sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru.
"Mae Cymru'n wynebu heriau digynsail oherwydd y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth gyda tywydd mawr fel llifogydd, gwres, sychder a thanau gwyllt yn effeithio'n sylweddol ar ein cymunedau, ein hecosystemau a hyd yn oed ein heconomi.
Gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu'n llwyr yng Nghymru, ni fu erioed yn bwysicach adfer natur a diogelu'r amgylchedd naturiol er lles cenedlaethau'r dyfodol.
"Ni fu erioed cymaint o frys arnom i weithredu, ac mae'r Bil hwn yn gam pwysig i gryfhau ein hymateb a'n mesurau i gadw golwg ar weithredu yng Nghymru."
Siaradodd y Dirprwy Brif Weinidog yn ystod ymweliad â Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Ngheinewydd.
Fel rhan o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Cyfyngedig, derbyniodd y Ganolfan £249,306 gan Gronfa Rhwydweithiau Natur yn 2024 ar gyfer Prosiect Ditectifs Deiet Dolffiniaid sy'n anelu at wneud ecosystemau morol yr ardal yn fwy gwydn.
Mae'r prosiect wedi cefnogi hyfforddiant â thâl i chwe pherson a hyfforddiant i wirfoddolwyr lleol a myfyrwyr intern i gasglu samplau o garthion ddolffiniaid trwyn potel i ddeall beth maen nhw’n ei fwyta a ble. Bydd modd wedyn creu proffil o bob dolffin unigol ym Mae Ceredigion a'r cyffiniau.