English icon English
lee waters-2

Rhewi prosiectau ffyrdd newydd

Freeze on new roads projects to be announced

Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn cyhoeddi y bydd prosiectau i adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi, wrth i adolygiad o gynlluniau priffyrdd ar draws Cymru gael ei gynnal.

Caiff y cyhoeddiad ei wneud mewn datganiad llafar i’r Senedd brynhawn yma [ddydd Mawrth, 22 Mehefin]. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos sut y byddwn yn gweithredu'n bendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Bydd Lee Waters yn dweud wrth y Senedd:

“Ers 1990, mae allyriadau Cymru wedi gostwng 31%. Ond i gyrraedd ein targed statudol o allyriadau Sero-Net erbyn 2050, rhaid gwneud mwy o lawer.  Yn y 10 mlynedd nesaf, bydd angen i ni sicrhau fwy na dwywaith y toriadau gafodd eu gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf os ydym am gadw’r cynnydd yn y tymheredd o fewn terfynau diogel. Bydd hynny’n golygu gwneud newidiadau ym mhob rhan o’n bywydau.  Trafnidiaeth sydd i gyfrif am ryw 17 y cant o’n holl allyriadau, felly rhaid iddi chwarae ei rhan.”

“Rhaid i ni roi’r gorau i wario arian ar brosiectau sy’n annog mwy o bobl i yrru, a gwario mwy o arian ar gynnal a chadw ein ffyrdd a buddsoddi mewn pethau fydd yn rhoi dewis go iawn i bobl.”

Cyhoeddir cylch gorchwyl llawn yr adolygiad maes o law. Fodd bynnag, disgwylir i’r adolygiad ystyried sut y gallwn symud gwariant tuag at gynnal ein ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd, ac edrych ar yr holl fuddsoddiadau arfaethedig mewn ffyrdd, y rhai sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n cael eu hariannu’n anuniongyrchol gan grantiau.

Cyhoeddir aelodau’r panel allanol a fydd yn cynnal yr adolygiad maes o law.  Byddwn yn gofyn i’r Panel ystyried creu profion ar gyfer penderfynu pryd mai adeiladu ffyrdd newydd yw’r ateb cywir i ddatrys problem cludiant, hynny yn unol â Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru.