"Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cymorth tosturiol i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad pan fyddan nhw ei angen," meddai'r Gweinidog
“We are committed to providing compassionate support for all those affected by suicide when they need it,” vows Minister
Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy, wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cymorth tosturiol ar gael i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad a phrofedigaeth pan fydd eu hangen arnynt.
I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi, mae Llywodraeth Cymru yn lansio gwasanaeth cynghori cenedlaethol i geisio helpu pawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad, a chanllawiau newydd ar gyfer asiantaethau a sefydliadau.
Mae'r gwasanaeth a'r canllawiau wedi'u dylanwadu gan anghenion a phrofiadau pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru.
Daw'r lansiad yn dilyn data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos cynnydd yn nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru yn ystod 2023.
Bydd y Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol arbenigol newydd yn ymateb i bawb sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad, wedi'u heffeithio gan hunanladdiad neu mewn profedigaeth wedi hunanladdiad a marwolaethau sydyn heb esboniad a allai fod yn hunanladdiad.
Bydd yn sicrhau y gall unrhyw un yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gael cymorth sensitif a thosturiol ar unwaith, gan gynnwys cyswllt rheolaidd gan swyddog cyswllt penodedig cyhyd ag y bo angen, yn ogystal â chymorth i gael gafael ar wasanaethau ehangach.
Mae'r gwasanaeth cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim ar gael i unigolion a theuluoedd dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo.
Mae Sefydliad Jac Lewis, elusen Gymreig sydd wedi bod yn darparu gwasanaeth yn lleol, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i letya'r gwasanaeth cenedlaethol.
Mae'r canllawiau newydd wedi'u hanelu at ystod o asiantaethau a sefydliadau "cyswllt" sy'n gyson yn rhan o daith profedigaeth pobl yn dilyn marwolaeth sydyn neu farwolaeth heb esboniad, gan gynnwys hunanladdiad posibl.
Mae'r rhain yn cynnwys ymatebwyr cyntaf, corffdai a swyddfeydd crwneriaid, yn ogystal ag ymarferwyr cyffredinol a thimau gofal sylfaenol, cyflogwyr a gweithleoedd.
Lluniwyd y canllawiau hyn drwy ymwneud ag unigolion ac asiantaethau sy'n gweithio yn y sector.
Cafodd y canllawiau eu dylunio i sicrhau ymateb mwy tosturiol, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol yn ystod y gwahanol gyfnodau wedi profedigaeth.
Gwnaeth y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, Sarah Murphy, ymweld â gwasanaeth Sefydliad Jac Lewis yn Abertawe i weld sut y maent yn helpu pobl:
Dywedodd: "Mae profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn gallu bod yn ofnadwy ac mae'n hanfodol bod pawb sydd wedi'u heffeithio yn gallu cael gafael ar gymorth tosturiol pan fyddan nhw ei angen.
"Bydd y Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol yn bwynt cyswllt cyntaf amhrisiadwy i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad a bydd yn rhoi cymorth hanfodol i unigolion o bob oed a theuluoedd yng Nghymru wrth iddyn nhw lywio'u ffordd drwy'r broses.
"Bydd y canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i ddeall eu rôl yn well o ran helpu pobl mewn profedigaeth wedi hunanladdiad neu sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad.
"Rydyn ni eisiau sicrhau bod y rhai sydd wedi'u heffeithio yn cael cymorth amserol, tosturiol ac effeithiol ble bynnag a phryd bynnag maen nhw ei angen.
"Drwy ddatblygu ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a'i rhoi ar waith yn barhaus, byddwn yn ystyried beth arall allwn ni ei wneud i atal hunanladdiad yng Nghymru".
Dywedodd Liz Thomas-Evans, prif swyddog gweithredol Sefydliad Jac Lewis:
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddarparu'r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol yng Nghymru.
"Bydd y gwasanaeth hwn yn sicrhau bod cymorth hanfodol ar gael i unigolion a theuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad ledled Cymru, gan weithio gyda gwasanaethau profedigaeth eraill i ddarparu'r cymorth, arweiniad ac adnoddau hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw yn ystod eu cyfnodau mwyaf anodd.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a theuluoedd, gan helpu i feithrin Cymru sy'n fwy tosturiol a chefnogol."
Nodiadau i olygyddion
Pic captions:
- Minister for Mental Health and Early Years Sarah Murphy with Jesse Lewis, who set up the Jac Lewis Foundation in memory of his son.
- Minister for Mental Health and Early Years Sarah Murphy with Jesse Lewis (left), who set up the Jac Lewis Foundation in memory of his son, and (right) Anthony Rees, chair of trustees of the Jac Lewis Foundation
- Minister for Mental Health and Early Years Sarah Murphy with a flyer for the National Advisory and Liaison Service
- Mental Health and Early Years Minister Sarah Murphy also attended the Beat the Black Dog 12km canitrail and trail run in aid of suicide prevention charity Papyrus in Ogmore Vale on Sunday (September 8).
Both the guidance and advice service are part of the Welsh Government’s Suicide and Self-harm Prevention Strategy, which was recently published for public consultation. The Welsh Government is aiming to publish the new strategy later this year.
Ahead of Suicide Prevention Day, Mental Health and Early Years Minister Sarah Murphy also attended the Beat the Black Dog 12km canitrail and trail run in aid of suicide prevention charity Papyrus in Ogmore on Sunday (September 8).
Samaritans' media guidelines:
If you are a journalist covering a suicide-related issue, please consider following the Samaritans' media guidelines on the reporting of suicide because of the potentially damaging consequences of irresponsible reporting. In particular, the guidelines advise on terminology and include links to sources of support for anyone affected by
More information about the service is available here:
- The bilingual website will launch on the 10th September: Home - National Advisory and Liaison Service Cymru (nals.cymru).
- The phone number is now live: 0800 048 7742.
To find out more about what you can do to have a potentially life-saving conversation with someone please visit: Suicide Awareness e-module - NHS SSHP.