Sêr yn alinio wrth i Gymru arwain y DU i amddiffyn yr awyr dywyll
Stars align as Wales leads the UK in dark skies protection
Yr wythnos hon Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno canllawiau arfer da cenedlaethol i helpu i ddiogelu ei hawyr dywyll.
Canllawiau Arfer Da: Bydd cynllunio cadwraeth a gwella awyr dywyll yn helpu i sicrhau lles pobl, wrth helpu gwylwyr y sêr a bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
Wedi'i gymeradwyo gan Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gweithredol DarkSky International, ei nod yw cynorthwyo pawb sy'n ymwneud â phenderfyniadau cynllunio - fel datblygwyr ac awdurdodau lleol - i ganolbwyntio ar y golau cywir ar yr adeg iawn yn y lle iawn i sicrhau bod cyfleoedd arbennig i syllu ar y sêr yn parhau.
Mae osgoi llygredd golau - sy'n gwastraffu arian, ynni a charbon - hefyd o fudd i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r hyn sy'n cael ei gynnig i dwristiaid, gyda'r wlad eisoes yn enwog am fod â'r ganran uchaf o awyr dywyll warchodedig yn y byd.
O Fannau Brycheiniog i Eryri, mae gan Gymru Warchodfeydd Awyr Dywyll a gydnabyddir yn rhyngwladol lle gall ymwelwyr weld hyd at 2,000 o sêr ar y tro, o gymharu â llai na 100 yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol, lle gall camau gweithredu sy'n deillio o'r canllawiau wneud gwahaniaeth.
Mae rhannau o Gymru hefyd wedi ennill dynodiadau pwysig fel Parc Awyr Dywyll, Noddfa Awyr Dywyll a Chymuned Awyr Dywyll.
Dywedodd Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol DarkSky International, Ruskin Hartley:
"Mae DarkSky International yn llongyfarch Cymru ar arwain y ffordd mewn cadwraeth awyr dywyll - Degawd o Dywyllwch. Gwych o beth yw fod Parc Cenedlaethol Eryri yn warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol ers 10 mlynedd, ac yn lansio Canllawiau Arfer Da arloesol i amddiffyn ei awyr dywyll ymhellach."
Mae'r canllawiau, a gynhyrchwyd trwy bartneriaeth agos rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Tirweddau Dynodedig Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn cael eu lansio wrth i Gymru baratoi ar gyfer yr Wythnos Awyr Dywyll, o ddydd Gwener 21 Chwefror, pan fydd pobl ledled y wlad yn edrych ar gytserau'r gaeaf.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
"Mae awyr y nos yn un o'n trysorau naturiol mwyaf gwerthfawr, sy'n ein cysylltu â chenedlaethau dirifedi a syllodd ar yr un sêr uwchben Cymru, ac rwyf am sicrhau ei bod yn cael ei chadw er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei darganfod a'i thrysori.
"Mae ein system gynllunio yn chwarae rhan sylfaenol wrth ddiogelu ein treftadaeth seryddol, nid yn unig i wylwyr sêr, ond i'r rhywogaethau dirifedi sy'n dibynnu ar dywyllwch naturiol er mwyn goroesi.
"Rwy'n falch bod Cymru'n arwain y ffordd drwy lansio'r Canllawiau Cynllunio Arfer Da hyn, a fydd yn ein helpu i eirioli dros - ac amddiffyn - ein hawyr dywyll."