
Seren Gavin a Stacey, Ruth Jones, yn cael croeso 'tidy' yng Ngwobrau Dewi Sant, wrth iddi gael ei anrhydeddu am ei llwyddiant.
Gavin and Stacey star Ruth Jones gets a ‘tidy’ welcome at the St David Awards, as she is honoured for her success.
Mae'r actores Ruth Jones o'r gyfres Gavin and Stacey, sy’n enwog yng Nghymru a thrwy'r byd fel y cymeriad Nessa, wedi cael gwobr arbennig.
Mae cyd-awdur y gyfres yn cael ei gwobrwyo am ei llwyddiant arbennig yn cipio calon y genedl a rhoi Cymru ar lwyfan y byd.
Gwnaeth miliynau o bobl wylio’r rhaglen ac mae cyfraniad nodedig Ruth at fywyd diwylliannol ei gwlad yn cael ei gydnabod heno yng Ngwobrau Dewi Sant.
A hwythau yn eu 12fed flwyddyn, bydd gwobrau cenedlaethol Cymru yn dathlu pobl o bob cwr o'r wlad mewn meysydd fel gwirfoddoli, dewrder, busnes a'r gymuned. Cyhoeddir enwau’r deg enillydd arall yn ystod y seremoni yng Nghaerdydd yn hwyrach ymlaen heno.
Wrth siarad yn y seremoni yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Rwy'n falch iawn o gael dathlu llwyddiant ysgubol Ruth Jones. Mae hi wedi dangos cynhesrwydd a ffraethineb pobl Cymru i’r byd. Rydyn ni'n falch fod gennym dalent mor enfawr."
"Gwobrau eleni yw fy ngwobrau cyntaf fel Prif Weinidog, sy'n gwneud yr achlysur yn un arbennig iawn i mi."
"Mae’n fraint cael anrhydeddu grŵp o bobl mor rhyfeddol o dalentog a dewr. Mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ysbrydoliaeth i ni i gyd."
Meddai’r actores Ruth Jones:
“Roeddwn yn hynod o gyffrous pan gefais wybod fy mod wedi cael fy newis i dderbyn Gwobr Arbennig y Prif Weinidog. Mae’n teimlo’n arbennig iawn ac mae’n fraint anferth. Rwy’n hynod o falch.”
Dywedodd Cadeirydd Panel Cynghori Gwobrau Dewi Sant 2025, yr Athro Jean White CBE:
"Mae'r profiad o fod yn un o'r beirniaid wedi bod yn emosiynol weithiau wrth glywed straeon am ddewrder pobl ac am drechu adfyd i lwyddo. Mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn o fod yn Gymraes."
Bydd pob enillydd yn cael tlws Gwobrau Dewi Sant, wedi'i ddylunio a'i wneud gan yr artist cerameg amlwg, Daniel Boyle o Geredigion.