Gwirfoddolwyr gŵyl roc Glynebwy yn serennu
This job rocks!
Ar ben mynydd yng Nglynebwy, mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer penwythnos agoriadol gŵyl roc Steelhouse.
Mae'r ŵyl, sydd bellach yn ei 14eg flwyddyn, yn ddigwyddiad blynyddol sy'n para tridiau, ac yn denu dros 16,000 o ymwelwyr a thîm helaeth o wirfoddolwyr ymroddgar.
Mae dros 100 o bobl yn rhan o'r rhaglen wirfoddoli sy'n cefnogi'r digwyddiad bob blwyddyn, gyda llawer ohonynt yn ei ystyried yn llwyfan perffaith er mwyn ennyn profiadau sydd wedi eu galluogi i ddilyn gyrfaoedd ym maes digwyddiadau a diwydiannau creadigol.
Mae Aeddan Shipp, sy'n 21 oed, wedi bod yn dod i ŵyl Steelhouse gyda'i deulu ers ei fod yn 8 oed. Wrth iddo dyfu, dechreuodd helpu ei rieni i addurno'r arena a datblygodd angerdd dros gynhyrchu ar ôl gwylio'r criwiau proffesiynol yn paratoi'r offer, y goleuadau ac yn gosod y llwyfan.
Aeth ati wedyn i helpu'r criw llwyfan yn Steelhouse i baratoi'r llwyfan ar gyfer newidiadau rhwng perfformwyr. Mae'r profiad go iawn hwn o fyd y llwyfan wedi ei ysbrydoli i ymgymryd â BSc Sain, Goleuo a Thechnoleg Digwyddiadau Byw yn Atriwm Prifysgol De Cymru, Caerdydd ac mae bellach yn mynd ar drywydd gyrfa yn y maes.
Dywedodd Aeddan:
“Mae wedi bod yn brofiad swreal gwirfoddoli yn yr ŵyl. Dw i'n ei weld nawr fel ail gartref a'r criw a'r gwirfoddolwyr fel ail deulu a ffrindiau gydol oes. Mae'r profiad dw i wedi'i gael o osod yr arena i weithio ar y llwyfan wedi fy helpu i ddod o hyd i fy ngyrfa arbenigol ac wedi fy helpu i dyfu fel person a magu hyder”.
Dechreuodd Steelhouse yn 2011 ac mae wedi tyfu'n gyson o 1,200 o ymwelwyr i ddechrau i'r 16,000 o ymwelwyr y maent bellach yn eu denu dros y penwythnos. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Digwyddiadau Cymru, wedi helpu i ariannu'r digwyddiad ers 2015.
Gan fod gwirfoddolwyr mor hanfodol ar gyfer rhedeg yr ŵyl, mae'n cynnig rhaglenni hyfforddi gan gynnwys lletygarwch, arlwyo, rheoli llwyfan a TG. Eleni maen nhw hefyd wedi penodi Swyddog Lles Gwirfoddwyr, Betty Thomas.
Yn ei gwaith bob dydd mae Betty yn rheoli rhaglenni allgymorth addysgol ar gyfer Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol. Ond dros y 12 mlynedd diwethaf, mae hi wedi bod yn gyfrifol am goginio ar gyfer criw yr ŵyl ynghyd â rhai o sêr mwyaf cerddoriaeth roc byd-eang.
Daeth i'r ŵyl gyntaf yn 2011 fel deiliad tocyn ond o fewn blwyddyn roedd ganddi swydd yno. Dywed Betty mai'r fraint fwyaf yn ei gwaith fu coginio i'r gwirfoddolwyr sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gwirfoddoli eu hamser ac yn cymryd eu gwyliau blynyddol i helpu i sicrhau bod yr ŵyl yn llwyddiannus.
Ar ôl y pandemig, sicrhawyd cytundeb ariannu 3 blynedd newydd ar gyfer yr ŵyl gan Digwyddiadau Cymru a fydd yn para tan 2025. Roedd effaith economaidd digwyddiad y llynedd yn unig i'r ardal leol bron yn £1m.
Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
“Mae'r ŵyl hon yn enghraifft wych o'r hyn y gall gwirfoddolwyr ei gyflawni a'r hyn y maent yn ei gael yn ôl am eu hymdrechion anhygoel! Mae gwirfoddolwyr wrth wraidd llawer o gymunedau yng Nghymru, gydag 1 o bob 3 o bobl yn rhoi o'u hamser bob blwyddyn ac yn ennill sgiliau, profiadau, a chysylltiadau gwerthfawr ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles.
“Mae gwirfoddolwyr wrth gwrs yn ased enfawr i'r sefydliadau a'r prosiectau sy'n eu cynnwys, gan ddarparu egni ffres, mewnwelediadau a sgiliau ychwanegol. Y tu hwnt i hyn, mae gwirfoddoli'n cryfhau gwead y gymuned ehangach, gan arwain at gymdeithas fwy gwydn, ffyniannus a chysylltiedig. Mae straeon gwirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu at ŵyl Steelhouse yn dangos pŵer gwirfoddoli a'r gwahaniaeth y gall gwirfoddolwyr ei wneud. Da iawn, bawb!”
Mae'r rhan fwyaf o werthwyr a masnachwyr yn yr ŵyl yn fusnesau yng Nghymru, sy'n gwerthu cynnyrch Cymreig, ac mae bron yr holl seilwaith a gwasanaethau yn cael eu darparu gan gyflenwyr o Gymru.
Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant:
“Mae gŵyl Steelhouse yn stori lwyddiant yng Nglynebwy sydd â ffocws rhagorol ar ddatblygu a hyfforddi ei weithlu gwirfoddol ymroddedig.
“Dyma fodel gwych o sut y gall llafur cariad entrepreneuraidd, gyda chymorth cymorth ariannol, dyfu er budd cymuned gyfan a darparu enillion enfawr ar fuddsoddiad i economi Cymru.”
Y ddau athrylith y tu ôl i ŵyl Steelhouse yw Max Rhead a Mikey Evans, ac mae'r ddau'n hanu o Lynebwy lle mae'r ŵyl yn cael ei chynnal. Ar ôl cyfarfod yn 13 oed yn Ysgol Gyfun Hŷn Glynebwy, daethant yn gyd-aelodau band, cyn mynd i'r busnes digwyddiadau gyda'i gilydd yn 2010 pan symudodd Mikey yn ôl i Gymru. Flwyddyn yn ddiweddarach dechreuodd yr ŵyl roc.
Dywedodd Mikey:
“O'r cychwyn cyntaf, mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn asgwrn cefn Gŵyl Steelhouse, ac rydyn ni'n ffodus iawn i gael tîm mor anhygoel o unigolion sy'n barod i roi cymaint i'r digwyddiad. Daw pob un gyda'i stori gefndir arbennig ei hun ac mae eu gwaith caled a'u hymrwymiad yn helpu i wneud y digwyddiad yr hyn ydyw - rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw i gyd.”
Bydd Steelhouse yn croesawu artistiaid o Ganada, UDA, Mecsico, yr Almaen, ac Iwerddon ochr yn ochr â rhai o dalentau cynhenid Cymru dros benwythnos 26-28 Gorffennaf.