Sut y daeth Cymru yn arweinydd y byd ym maes ailgylchu.
How Wales became a world leader in recycling.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud Cymru yn wlad wyrddach, mwy cyfartal, a mwy llewyrchus. Mae ein dull o reoli ein gwastraff a’r adnoddau yr ydym yn eu defnyddio wedi dod yn bwysicach; yn y frwydr gynyddol i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd. Ers i Gymru gael ei llywodraeth ei hun yn 1999, rydym wedi dod yn arweinydd byd ym maes ailgylchu. Rydym bellach yn gyntaf yn y DU, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd am ailgylchu gwastraf y cartref. Yn syml, daw ailgylchu yn naturiol inni! Mae’r llwyddiant hwn o weledigaeth glir, hirdymor, o weithio mewn partneriaeth gref, buddsoddi sylweddol a cherrig milltir clir ar hyd y ffordd.
I ddathlu Diwrnod Ailgylchu y Byd, rydym yn edrych ar sut y mae Cymru a phob cartref yng Nghymru wedi helpu inni gyflawni hyn.
1. Gosod targedau ailgylchu statudol.
Gosododd Llywodraeth Cymru dargedau ailgylchu statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol – mae hyn wedi cynyddu yr ailgylchu mewn cartrefi o 5.2% (1998-99) i 60.7% (2018-19). Mae cyfraddau ailgylchu gwastraf trefol hefyd wedi codi o 4.8% i 62.8% yn ystod yr un cyfnod.
2. Annog mwy o ailgylchu.
Mae cyflwyno ymgyrch ailgylchu genedlaethol i Gymru, Ailgylchu dros Gymru, wedi annog defnyddwyr i ailgylchu mwy o bethau, yn aml o bob rhan o’r cartref, ac mae gwefannau eraill megis Fy Ailgylchu Cymru yn rhoi gwybodaeth am ble y mae ein hailgylchu’n mynd.
3. Gan ddarparu dros £1 biliwn ers 2000 i helpu Awdurdodau Lleol fuddsoddi mewn gwasanaethau casglu ar gyfer ailgylchu.
Mae gan Gymru systemau casglu cadarn, ac rydym wedi cefnogi y broses o greu seilwaith yma i ddelio gyda’n hailgylchu. Mae 13 allan o 22 awdurdod lleol yn dilyn Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru. Mae’r Glasbrint yn rhoi amlinelliad o’r dulliau o gasglu gwastraff sy’n cael eu hargymell, i sicrhau gwasanaethau casglu fforddiadwy a chynaliadwy ar gyfer gwastraff y gellir ei ailgylchu, ei gompostio a gwastraff gweddilliol.
4. Casglu gwastraff bwyd bob wythnos ar wahân.
Mae gan 99% o gartrefi bellach wasanaeth casglu gwastraff bwyd wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyllid penodol i Awdurdodau Lleol. Mae ein gwastraff bwyd yna’n cael ei brosesu i greu ynni ar gyfer ein cartrefi.
5. Gwell cyfleusterau a chanolfannau ailgylchu gwastraff.
Mae nifer o safleoedd nawr yn gorfod ymdopi gydag 20 o wahanol fathau o wastraff. Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi gwella y ddarpariaeth ailgylchu yn sylweddol yn eu canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi /safleoedd amwynderau dinesig.
6.Casglu sbwriel cyffredinol yn llai aml.
Trwy leihau nifer y casgliadau sbwriel cyffredinol (bagiau du), mae cartrefi yng Nghymru wedi eu hannog i ailgylchu mwy o eitemau.
7. Gwasanaeth casglu ehangach ar gyfer ailgylchu
Mae pob Awdurdod Lleol yn darparu gwasanaeth casglu ailgylchu cynhwysfawr. Mae eitemau sy’n cael eu casglu’n gyson ar draws y wlad megis gwydr, papur, cerdyn, caniau metel, a photeli plastig, potiau, tybiau a hambyrddau. Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU yn y maes hwn.
8. Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu electronig a bateri
Mae bellach wasanaethau ar gael ledled Cymru i ailgylchu gwastraff electronig a bateri. Mae hyn wedi cynyddu y nifer cyffredinol o eitemau sy’n cael eu hailgylchu.
9. Cynyddu nifer y siopau trwsio, uwchgylchu ac ailddefnyddio.
Mae mwy a mwy o bobl bellach yn rhoi dodrefn, nwyddau electronig ac eitemau eraill o’u cartrefi i elusennau i gynnal eu gwaith. Mae nifer o Awdurdodau Lleol bellach yn cynnal siopau ailgylchu yn eu canolfannau ailgylchu sy’n golygu bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.
10. Ailgylchu mwy o fatresi.
Mae Cymru yn arwain y ffordd yn y DU o ran ailgylchu matresi gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiectau megis cynllun ailgylchu matresi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
11.Cyflwyno y tâl bag siopa
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fag siopa, welodd gynnydd yn nifer y bagiau am oes a ddefnyddiwyd.
Ond rydym am fynd ymhellach, a dod yn economi gylchol ac ailgylchu 100% a bod yn ddi-wastraff erbyn 2050. Dyma sut y byddwn yn gwireddu yr uchelgais hon.
1.Dod yn economi gylchol.
Ehangu ar lwyddiant y tâl am fag siopa plastig a mynd y tu hwnt i ailgylchu a pharhau i chadw adnoddau cyhyd â phosibl. Bydd hyn yn helpu I leihau allyriadau carbon ac yn helpu I Gymru gyrraedd y nod hwn o economi garbon isel mewn economi gylchol.
2.Gwahardd plastig untro
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyfyngiadau i ddefnyddio plastigau untro di-angen, sy’n anodd i’w hailgylchu ac sy’n sbwriel cyffredin, fel rhan o’u hymdrechion ehangach i fynd i’r afael â’r broblem o lygredd plastig.
3.Cynnwys ailgylchu yn niwylliant Cymru yr 21ain Ganrif
Gwnewch Gymru yr hyn y mae pawb yn ei wneud yng Nghymru, boed yn byw, gweithio neu ymweld! Byddwn yn pwysleisio na all Cymru daflu ei dyfodol i ffwrdd a bod angen ailgylchu er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy alw ar y cyhoedd yng Nghymru i ailgylchu.