Technolegau arloesol yn creu cartrefi cynhesach fforddiadwy
Innovative technologies creating warmer affordable homes
Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, ar ymweliad â datblygiad tai cymdeithasol carbon isel yng Nghaerdydd.
Mae Cwrt Alaw Tai Taf yn arddangos tai cymdeithasol carbon isel a'r defnydd o safleoedd tir llwyd fel rhan o brosiect adfywio cymunedol ehangach.
Mae'r prosiect ailddatblygu yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i adfywio safleoedd ledled Caerdydd.
Mae'r safle'n darparu deg fflat un a dwy ystafell wely newydd o ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
Mae gan bob eiddo dechnolegau arloesol wedi'u gosod drwyddi draw, gan greu cartrefi fforddiadwy cynhesach i denantiaid.
Mae'r rhain yn cynnwys paneli solar a batris, yn ogystal â systemau awyru a gwresogi mecanyddol. Maent hefyd yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio ymagwedd 'gwneuthuriad yn gyntaf' er mwyn osgoi gorfod uwchraddio gwneuthuriad costus yn y dyfodol.
Mae Cymdeithas Tai Taf wedi derbyn £1.3m o gymorth ariannol gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Rydym yn gwybod bod buddsoddi mewn tai fforddiadwy o ansawdd da yn darparu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd ac yn helpu i yrru twf economaidd.
“Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio ein Grant Tai Cymdeithasol i gyflwyno technolegau newydd ac arloesol i helpu i wneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni a chadw costau’n is i denantiaid."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Tai Taf, Helen White: "Mae cymaint o gyfleoedd ar gyfer cartrefi newydd ar draws y ddinas, fel hen adeilad Radiocraft, nad ydynt yn cael eu defnyddio.
"Mae'r angen am gartrefi fforddiadwy ar draws ein prifddinas yn uwch nag erioed, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i gefnogi'r gwaith o ddarparu mwy o gartrefi newydd ar safleoedd tir llwyd."
DIWEDD