English icon English

Llywodraeth Cymru: £250miliwn tuag at 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu

Trail - Welsh Government: £250million towards 20,000 low carbon homes for rent

Bydd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, yn ymweld ag un o gynlluniau tai cymdeithasol 'ynni cadarnhaol' cyntaf Cymru y bore yma, i ddangos sut y bydd yn dyblu ei gwariant ar dai cymdeithasol i'w rhentu yn 2021-22, ar gyfer 20,000 o gartrefi carbon isel newydd.

Bydd y cynlluniau uchelgeisiol yn mynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai a'r argyfwng hinsawdd, gan ddarparu cartrefi gwyrdd fforddiadwy o ansawdd da i'r rhai sydd eu hangen.

Bydd pob cartref yn cael ei adeiladu i safonau ansawdd ac amgylcheddol newydd gwych gyda'r nod i rai o'r stoc fynd y tu hwnt i sero net a chynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio. Disgwylir cyhoeddiad pellach ar hyn cyn diwedd y mis hwn.

Bydd datganiad i'r wasg a ffotograffau yn cael eu darparu i'r cyfryngau tua 13:00 ddydd Mercher 4 Awst i'w rhyddhau ar unwaith