Minister for Culture at Welsh Museums Festival

Tymor y bwganod a ffocws ar hwyl sy'n fwy ecogyfeillgar yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru 2026

Spooky season and kinder-for-the-planet hwyl focus for Welsh Museums Festival 2026

O ymweliadau arswydus â Charchar Rhuthun, i ddraig gopr 20 troedfedd o faint yn Rhaeadr Gwy, i flychau ystlumod yn y Rhondda, mae digonedd o hwyl ar gael dros hanner tymor mis Hydref wrth i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru gychwyn am y ddeuddegfed flwyddyn.

Mae'r dathliad wythnos o hyd yn dechrau ddydd Sadwrn [dydd Sadwrn 24 Hydref tan ddydd Sul 1 Tachwedd], ac mae ystod eang o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn mwy na 60 o amgueddfeydd ac orielau ledled y wlad.

Caiff yr ŵyl ei threfnu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a'i chefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru, ac mae'n cynnig llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig rhad neu ddi-dâl i deuluoedd. Felly dyma'r amser perffaith i ddarganfod eich amgueddfa neu'ch oriel leol. Wrth i ddathliad eleni gofleidio Calan Gaeaf, mae amrywiaeth o weithgareddau dwyieithog ar gael gan gynnwys fersiwn wyrddach o adnodd Calan Gaeaf yr ŵyl sy'n rhad ac am ddim.     

Eleni, mae trefnwyr yr Ŵyl yn annog yr amgueddfeydd sy'n cymryd rhan i ddatblygu mwy o Hwyl Gynaliadwy, gan gadw Calan Gaeaf mewn cof o hyd. Y nod yw creu hwyl gan leihau gwastraff, drwy annog amgueddfeydd ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddathlu gan roi sylw arbennig i'r amgylchedd.

Fel rhan o'r cyllid a roddwyd i gefnogi'r ŵyl eleni, mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru wedi dyfarnu grantiau o fwy na £12,000 i 18 o amgueddfeydd i'w helpu i gymryd rhan yn yr ŵyl yn 2026.

I nodi dechrau'r dathliadau, ymwelodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, ag Amgueddfa a Chymdeithas Hanes Porthcawl. Mae gan yr amgueddfa annibynnol a sefydlwyd ym mis Hydref 1972 ac sydd â'i chartref yn hen adeilad yr Orsaf Heddlu, gasgliad o fwy na 8,000 o eitemau sy'n dogfennu hanes Porthcawl, gan gynnwys yr ail gasgliad mwyaf o wisgoedd mewn amgueddfa annibynnol yng Nghymru.

Yn ystod yr ymweliad, aeth y Gweinidog o gwmpas yr amgueddfa a chlywodd am gyllid diweddar Llywodraeth Cymru sy'n eu helpu i gynnal gwaith i uwchraddio'u systemau diogelwch.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn gyfle gwych i ddathlu’r amgueddfeydd sydd gennym ledled Cymru a phopeth maen nhw’n ei gyfrannu at ein cymunedau. Maen nhw’n dod â’n hanes a’n diwylliant yn fyw, yn cynnig cyfleoedd i ddysgu a mwynhau, yn cefnogi ein llesiant, ac yn denu ymwelwyr i drefi a chymunedau ledled y wlad. 

“Roedd yn wych gweld yn ystod fy ymweliad diweddar y gwahaniaeth y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a’r angerdd a’r ymroddiad sy’n mynd tuag at sicrhau bod ein hamgueddfeydd lleol yn parhau i ffynnu.”

Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru:

"Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn trefnu Gŵyl Amgueddfeydd Cymru i arddangos y bwrlwm a'r cydweithredu yn sector amgueddfeydd Cymru. Eleni, mae mwy na 60 o amgueddfeydd yn cymryd rhan, y nifer mwyaf ers i'r ŵyl gychwyn. Mae'r ŵyl yn arbennig o boblogaidd ymhlith teuluoedd, gan ddarparu gweithgareddau hygyrch, rhad ac am ddim yn ystod cyfnod o bwysau ariannol.

"Eleni, rydyn ni hefyd wedi annog amgueddfeydd i feddwl am ffyrdd gwyrddach o ddathlu Calan Gaeaf, ac mae hi wedi bod yn hyfryd gweld cynifer yn rhoi cynnig ar syniadau newydd, o lusernau helyg i flychau ystlumod. Yn anad dim, dyma'r amser perffaith i ddarganfod eich amgueddfa leol."     

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.museumsfederation.cymru