English icon English

Uwchgynhadledd i hyrwyddo a gwella perchnogaeth cyfrifol ar gŵn yng Nghymru

Summit to promote and improve responsible dog ownership in Wales

Galwyd uwchgynhadledd i edrych ar beth arall y gellir ei wneud yng Nghymru i hyrwyddo a gwella perchnogaeth gyfrifol ar gŵn gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths heddiw (18 Hydref).

Mae'r uwchgynhadledd yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Gymru. Mae'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o lywodraeth leol, yr heddlu, iechyd y cyhoedd, sefydliadau'r trydydd sector a'r rhai sy'n ymgyrchu dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd yn gyffredinol.

Nid yw cyfreithiau sy'n amddiffyn y cyhoedd rhag cŵn peryglus wedi'u datganoli ac, felly, maent yn fater i Lywodraeth y DU.  Fodd bynnag, gellir ymdrin â materion fel bridio, gwerthu anifeiliaid anwes a chodi ymwybyddiaeth o berchnogaeth cyfrifol ar gŵn yng Nghymru.

Bydd yr uwchgynhadledd yn edrych ar hyn sy'n gweithio nawr, a pha gamau ychwanegol y gellir eu cymryd i hyrwyddo a gwella perchnogaeth cyfrifol ar gŵn.

Er enghraifft, dros y tair blynedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi prosiect gorfodi awdurdodau lleol mewn perthynas â bridio cŵn.  Mae'n rhoi hyfforddiant ac arweiniad i arolygwyr, i wella ein gallu i ymchwilio i fridio anghyfreithlon a'i atal. Mae hyn wedi cynnwys arolygiadau ychwanegol mewn safleoedd bridio cŵn a chasglu gwybodaeth am fridwyr cŵn heb drwydded, gan arwain at erlyniadau.

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd dywedodd y Gweinidog: "Rydym wedi gweld gormod o lawer o ymosodiadau gan gŵn dros y blynyddoedd diwethaf ac, er bod newidiadau i'r gyfraith ar gŵn peryglus yn fater i Lywodraeth y DU, mae yna bethau y gallwn fynd i'r afael â nhw yng Nghymru, megis gwella gorfodaeth o ddeddfwriaeth bresennol, addysg a chodi ymwybyddiaeth.

"Mae'r uwchgynhadledd yn dod â'r holl brif sefydliadau at ei gilydd fel y gallwn weld beth sy'n gweithio nawr, lle mae bylchau a lle gallwn weithredu mwy. 

"Mae gan unrhyw gi, beth bynnag fo'u brîd neu faint, y potensial i achosi niwed a bod yn ymosodol, ac felly mae perchenogaeth cyfrifol ar gŵn yn hanfodol i bob brîd.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr uwchgynhadledd, drwy ddod â phawb at ei gilydd, yn gallu archwilio ac asesu sut y gallwn wneud cynnydd gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni yng Nghymru."

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Dr Richard Irvine: "Mae perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn allweddol ar gyfer lles anifeiliaid a diogelwch y cyhoedd.  Roedd hefyd yn ffocws i mi yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd yn dda clywed beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo hyn.

"Gall bod yn berchen ar gi roi boddhad enfawr, ond mae hefyd yn ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb mawr.   Nid yw'n rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn, a bydd yr uwchgynhadledd yn hanfodol wrth glywed gan bawb beth arall y gallwn ei wneud, gan gynnwys sicrhau bod y rhai sydd newydd ddod yn berchen ar gi gael yr wybodaeth gywir."

Arweinydd Strategol a Rheolwr Safonau Masnach a Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Fynwy Gareth Walters fydd un o gynrychiolwyr yr awdurdodau lleol yn yr uwchgynhadledd.  Meddai: "Mae prosiect Gorfodi'r Awdurdod Lleol wedi goruchwylio penodi 9 Swyddog Trwyddedu Anifeiliaid newydd. Maent yn cynnig cymorth hanfodol sy'n ofynnol gan wasanaethau diogelu'r cyhoedd awdurdodau lleol trwy ddarparu adnodd a rennir ledled Cymru fel pwynt arbenigedd cydnabyddedig. Mae'r swyddogion yn galluogi swyddogion iechyd anifeiliaid presennol i ganolbwyntio ar waith iechyd a lles anifeiliaid yn ehangach.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y byddwn yn cyfrannu ymhellach gyda'r holl bartneriaid ar hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn."