English icon English

Mwy o gartrefi, systemau ymyrraeth gynnar a chymorth sy'n allweddol i roi diwedd ar ddigartrefedd

More homes, early intervention and support systems key to ending homelessness

Mewn araith a roddwyd yn y Senedd, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, i'r afael â'r sefyllfa bresennol yng Nghymru ym maes tai a chynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd.

Wrth annerch y Siambr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Gwyddom fod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i ysgogi twf economaidd.

"Gall tai fforddiadwy o ansawdd da roi cyfleoedd i bob unigolyn a theulu, gan effeithio'n gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd, iechyd meddwl ac addysg.

"Ni ellir cyflawni ein huchelgais i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru oni bai bod gennym ddigon o gartrefi addas y gall pobl fforddio byw'n dda ynddynt ochr yn ochr â systemau ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi.”

Mae nifer uchel o bobl sy'n byw mewn llety dros dro ac Asesiadau Marchnad Tai Lleol Awdurdodau Lleol yn dystiolaeth bod yn rhaid darparu mwy o dai.

Ar ddechrau'r tymor Seneddol hwn, gosodwyd targed heriol gennym i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent ychwanegol yn y sector cymdeithasol.

Mae'r Prif Weinidog wedi gosod darparu mwy o gartrefi fel un o'i blaenoriaethau allweddol, gan roi cyfle i deuluoedd fyw bywydau llawn.

Er gwaethaf rhai o'r digwyddiadau byd-eang mwyaf heriol sy'n codi chwyddiant a chostau, darparwyd y lefelau uchaf erioed o gyllid i gefnogi'r ymrwymiad hwn, gyda dros £1.4bn wedi'i fuddsoddi hyd yn hyn.

Mae cefnogi adeiladwyr tai gyda chynnydd mewn costau, cyflwyno cyllid ychwanegol a hyblygrwydd drwy’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro a chyflwyno Cynllun Lesio Cymru yn rhai o’r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei flaen: "Mae ein buddsoddiad yn talu ar ei ganfed, mae'r sector yn ymateb yn gadarnhaol ac mae cyfraddau darparu cartrefi cymdeithasol yn cynyddu i rai o'r cyfraddau uchaf a gofnodwyd erioed.

"Er fy mod yn canmol gwaith y sector i gynyddu eu rhaglenni adeiladu, mae'n iawn ein bod yn cael ein herio i wneud mwy, cyflawni yn gyflymach."

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn cwblhau trefniadau ar gyfer Tasglu Cartrefi Fforddiadwy.

Bydd y Tasglu yn archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy drwy brosesau cynllunio, cyflenwi tir ac annog gweithio'n agos gyda gweithgynhyrchwyr tai modiwlaidd.

Gofynnwyd hefyd i awdurdodau lleol flaenoriaethu ymdrechion ac adnoddau ar gynlluniau i ddarparu cymaint o gartrefi â phosibl.

Bydd cyflawni ar yr agenda hon yn galw am weithio'n agos gydag aelodau eraill o'r Cabinet ar draws portffolios i chwalu'r rhwystrau sy'n wynebu tai.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei flaen: "Rwy'n credu y byddai aelodau yma yn y Senedd i gyd yn cytuno mai canolbwyntio ar ddarparu mwy o dai fforddiadwy, gyda ffocws cadarn ar rent cymdeithasol, a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw'r blaenoriaethau cywir.

"Rwy'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i wneud hwn yn un o'i blaenoriaethau allweddol i sicrhau cyfleoedd i bob teulu."

DIWEDD