English icon English
Julie James Queen's Market visit Rhyl-2

Adeilad treftadaeth segur 'wedi'i drawsnewid' i'w ddefnyddio yn yr 21ain ganrif

Disused heritage building ‘transformed’ for use in the 21st century

Mae prosiect ailddatblygu wedi trawsnewid adeilad segur yng nghanol y Rhyl yn farchnad dan do fywiog.

Mae hen adeiladau'r Frenhines a safleoedd Gwesty'r Savoy wedi cael bywyd newydd a byddant yn dod â chyfleoedd cyflogaeth a gweithgareddau economaidd i'r dref. Mae'r datblygiad yn brosiect adfywio allweddol ar gyfer y Rhyl, gan gysylltu'r promenâd â chanol y dref.

Bellach yn cael ei adnabod yn Farchnad y Frenhines, bydd yn ddarpariaeth gyffrous a modern yng nghanol y dref, gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau arlwyo, stondinau marchnad manwerthu parhaol a dros dro a man hyblyg ar gyfer digwyddiadau.

Bydd yr ardal allanol yn cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau mwy, marchnadoedd awyr agored a bydd yn darparu man a seddi cymunedol.

Mae'r prosiect wedi cael dros £6m o gymorth ariannol drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, ymwelodd Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, â'r farchnad.

Dywedodd: "Mae ailddatblygu Marchnad y Frenhines wedi dod â bywyd yn ôl i adeilad treftadaeth hyfryd ac mae'n enghraifft wych o'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni ledled Cymru.

"Mae'r trawsnewidiad wedi dod â'r adeilad yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol yn yr 21ain ganrif a bydd wir yn gaffaeliad i'r gymuned.

"Mae'n bleser gwirioneddol bod yn gyfrifol am y Rhaglen Trawsnewid Trefi a byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i gefnogi'r gwaith o wella ac addasu eiddo masnachol a phreswyl sydd ddim yn cael eu defnyddio'n ddigonol yn y Rhyl."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae'r Rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi cyfanswm buddsoddiad yng nghanol tref y Rhyl o dros £20m, gan wella ac addasu eiddo masnachol a phreswyl nas defnyddiwyd.