Cymru i gynnal digwyddiad cynaliadwyedd rhyngwladol mawr
Wales to host major international sustainability event
Bydd siaradwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o'r byd yn ymgynnull yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf wrth i Gymru gynnal Hotspot Economi Gylchol Ewrop am y tro cyntaf.
Cafodd yr Hotspot cyntaf ei gynnal yn yr Iseldiroedd yn 2016 ond bellach mae’n ddigwyddiad byd-eang, gyda Chymru’n cynnal yr Hotspot yn Ewrop yr un pryd â digwyddiadau yn Ne Affrica a Gogledd a De America. Mae'n ddigwyddiad tridiau ac yn cynnwys cynhadledd ryngwladol, arddangosfa o'r economi gylchol a rhaglen o ymweliadau â safleoedd. Mae'n canolbwyntio ar agweddau pwysig ar yr economi gylchol i annog cynrychiolwyr i weithredu i gyflymu'r trawsnewid gwyrdd. Bydd cynrychiolwyr yn cael gweld â'u llygaid eu hunain sefydliadau a busnesau sy'n gweithio tuag at yr economi gylchol.
Mae'r wlad sy’n ei chynnal yn cael ei dewis am ddangos yr arloesedd a'r arfer rhyngwladol gorau wrth ddatblygu economi gylchol. Fel y wlad sy'n ei chynnal, bydd Cymru'n adrodd hanes ei thaith ei hun at fod yn economi gylchol, gan gynnwys sut mae wedi dod i fod yr ail orau yn y byd am ailgylchu.
Ymhlith yr anerchwyr fydd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies; Sebastian Munden, cadeirydd WRAP, yr elusen amgylcheddol flaenllaw a chyn brif weithredwr Unilever yn y DU ac Iwerddon; Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker; ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan. Bydd y canlynol ymhlith y siaradwyr rhyngwladol: Dr. Carsten Gerhardt, Cadeirydd y Circular Valley Foundation, Uxue Itoiz, Cyfarwyddwr Cyffredinol Ynni, Entrepreneuriaeth a Buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu yn Llywodraeth Navarre, Champa Patel , Cyfarwyddwr Gweithredol Llywodraethau a Pholisi yn The Climate Group a Cillian Lohan, Pennaeth y Green Economy Foundation.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Testun balchder ac anrhydedd i ni yw cael cynnal yr Hotspot Rhyngwladol. Fel y wlad sy'n ei chynnal, rydym yn awyddus i ddangos i chi ein harferion da a rhannu â chi ble rydym ni arni ar ein taith tuag at yr economi gylchol a'r gwersi rydym wedi'u dysgu. Rydym hefyd yn disgwyl ymlaen at gael ein dysgu gan eraill a chael cyfleoedd newydd i gydweithio.
Fel Llywodraeth, un o'n prif flaenoriaethau yw datblygu'r economi werdd ac mae’r newid at economi gylchol yn dod â chyfleoedd mawr ac yn chwarae rhan bwysig. Mae ein llwyddiant hyd yma o ran ailgylchu yn sylfaen gadarn ond mae ein nod yn glir - bod yn genedl ddiwastraff, carbon sero net sy'n defnyddio yn unig ei chyfran deg o adnoddau'r Ddaear."
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: "Cymru yw'r wlad ail orau yn y byd am ailgylchu a thrwy gynnal y gynhadledd bwysig hon, rydym yn dod â gwledydd ynghyd i gydweithio ar sut i ailgylchu, trwsio ac ailddefnyddio adnoddau er budd ein hiechyd, ein cymunedau a'n heconomi.
"Mae'r her sy'n ein hwynebu yn un argyfyngus - rydyn ni'n defnyddio adnoddau'r ddaear yn gynt nag y mae hi'n gallu eu hailgyflenwi. Yn wir, pe bai'r byd i gyd yn byw fel pobl Cymru, byddai angen dwy blaned arnom.
"Mae gan Gymru Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol a rhaid i ni ei defnyddio i roi cenedlaethau'r dyfodol wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer bod yn wlad ddiwastraff,"
Dywedodd Sebastian Munder, Cadeirydd WRAP "Mae Cymru wedi symud i fyny podiwm ailgylchu'r byd i safle'r fedal arian, yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael, felly mae'n briodol iawn bod Cymru'n cynnal y digwyddiad pwysig hwn ym myd yr economi gylchol. Byw cylchol, fel yr ydym yn ei alw yn WRAP, yw cyfle arloesi eu cenhedlaeth i fusnesau a brandiau i roi mwy o werth i bobl, gyda llai o ddifrod, dim gwastraff gan fod yr un mor ddeniadol ag erioed.
"Mae hynny'n dda i fusnes, ac yn dda i'r amgylchedd. Edrychaf ymlaen at gael fy ysbrydoli gan enghreifftiau o bob cwr o'r byd.
I gael gwybod mwy am Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024, ewch i circulareconomyhotspot.wales/