
Y Dirprwy Brif Weinidog yn canmol y gwaith diffodd tân 'eithriadol' yn ystod y tymor tanau gwyllt
Deputy First Minister praises ‘exceptional’ firefighting during wildfire season
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi canmol sgiliau eithriadol diffoddwyr tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn cynnydd digynsail mewn tanau gwyllt ledled Cymru.
Yn ddiweddar, cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog â diffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân ac Achub Tonypandy sydd wedi bod yn delio â thanau mawr yn y Maerdy a Threorci.
Roedd yr ymweliad yn dilyn cyfnod heriol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru; mae'r data sydd gennym yn dangos bod 191 o danau gwyllt wedi bod yn Rhondda Cynon Taf yn ystod y flwyddyn galendr hyd at fis Mai, o'i gymharu â 68 yn yr un cyfnod y llynedd.
Credir bod tua 90% o'r tanau eleni wedi cael eu dechrau'n fwriadol, ac mewn tywydd sych mae'r rhain yn gallu lledaenu allan o reolaeth a rhoi cymunedau, tirweddau naturiol a bywyd gwyllt mewn perygl. Maent hefyd yn golygu nad yw'r diffoddwyr tân sy'n delio â nhw ar gael i ymateb i argyfyngau eraill.
Yn ffodus, diolch i arbenigedd diffoddwyr tân Gwasanaeth De Cymru, cafodd pob tân o'r fath ei gyfyngu a'i ddiffodd heb iddynt achosi unrhyw anafiadau y gwyddom amdanynt.
Yn ystod yr ymweliad, clywodd y Dirprwy Brif Weinidog hefyd am waith ataliol llwyddiannus y Gwasanaeth gyda phlant a phobl ifanc, sy'n helpu i leihau achosion o gynnau tân bwriadol ar draws ardal y gwasanaeth.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Roedd yn anrhydedd cwrdd â diffoddwyr tân yn Nhonypandy sydd wedi arddangos sgiliau ac ymroddiad eithriadol wrth warchod ein cymunedau rhag tanau gwyllt. Mae eu dewrder proffesiynoldeb wrth wynebu'r tanau gwyllt peryglus hyn wedi achub bywydau ac wedi gwarchod cartrefi ac eiddo.
"Wrth i'n hinsawdd newid, gan ddod â thymhorau tyfu hirach a mwy o dywydd poeth yn yr haf, mae'n rhaid inni addasu ein dulliau o atal tanau a rheoli tir. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru i sicrhau bod gan ein diffoddwyr tân yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymateb i'r heriau hyn sy'n esblygu."
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Dean Loader: “Roedden ni’n falch o gael croesawu’r Dirprwy Brif Weinidog i Orsaf Dân Tonypandy, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr ei gydnabyddiaeth i’r ymroddiad a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan ein staff yn ystod cyfnod a oedd yn eithriadol heriol. Roedd yn fraint cael arddangos rhai o’r technegau a’r technolegau arloesol y mae’r Gwasanaeth yn eu defnyddio i fynd i’r afael â thanau gwyllt, ac i drafod cyfleoedd i gydweithio, i addysgu ac i ymgysylltu â’r gymuned i’r dyfodol. Gyda’n gilydd, fe allwn ni barhau i leihau’r risg a chadw ein cymunedau yn saff.”