English icon English

Y grŵp cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wella amodau’r gweithlu gofal cymdeithasol

First in UK group to improve social care workforce conditions

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i sefydlu grŵp sy’n dod â’r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd i wella ffyrdd o weithio ar gyfer staff yn y sector gofal cymdeithasol.

Bydd Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn bwysig wrth helpu cynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwneud amodau gwaith yn well ac yn decach i staff.

Mae’r Bartneriaeth wedi ymgynghori â’r gweithlu a darparwyr gofal cymdeithasol yn barod i benderfynu beth sy’n bwysig iddynt, ac i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed wrth i’r blaenoriaethau ar gyfer y Bartneriaeth gael eu pennu.

Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar dri phrif faes dros y misoedd nesaf sy’n cynnwys gwella iechyd a diogelwch yn y gwaith a diogelu staff rhag trais. Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i ddatblygu cytundebau ar y cyd rhwng cyflogwr ac undebau llafur. Bydd y cytundebau hyn yn gallu ymdrin â meysydd allweddol fel gweithdrefnau effeithiol ar gyfer ymateb i newidiadau sefydliadol a sicrhau bod canllawiau clir i’w cael ynghylch apeliadau a hawliau gweithwyr.

Bydd y Bartneriaeth yn gweithredu ar sail wirfoddol a bydd cyflogwyr gofal cymdeithasol yn cael eu hannog i fabwysiadu’r modelau y bydd yn cytuno arnynt, er mwyn gwella cysondeb ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Mae’r grŵp yn adeiladu ar y gwaith a ddechreuodd yn 2020 pan gafodd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ei sefydlu yng Nghymru. Y nod oedd ymwreiddio egwyddorion gwaith teg ac edrych ar ffyrdd o wella tâl ac amodau i weithwyr gofal.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Mae Cymru yn arwain y ffordd gyda’n Llywodraeth, ein cyflogwyr a’n hundebau llafur yn cydweithio er budd y sector gofal cymdeithasol.

“Mae staff gofal ym mhob cwr o Gymru yn gweithio’n ddiflino ac yn dangos eu hymrwymiad bob dydd i gefnogi’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Mae hwn yn gam addawol tuag at greu amgylchedd gwaith tecach a mwy cefnogol iddyn nhw.

“Rydyn ni’n gwybod bod y sector yn wynebu heriau ond, drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn fynd ati i gyflawni gwahaniaeth cadarnhaol. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r gweithlu gofal cymdeithasol, ac i’r bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.”

Dywedodd Mark Turner, Swyddog Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn UNSAIN Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn braenaru’r tir ers diwedd 2020, ac mae mesurau fel cyfradd isafswm cyflog y cyflog byw gwirioneddol eisoes ar waith ers 2022.

“Mae potensial drwy greu Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol i ailwampio llawer mwy na chyfraddau cyflog sylfaenol, oherwydd mae’n ffurf wirfoddol o gydfargeinio. Mae hyn yn golygu bod gan weithwyr gofal lais drwy’r undebau llafur. Gall yr undebau negodi cytundebau ar draws y sector cyfan a fydd, gobeithio, yn gwella bywydau gwaith degau o filoedd o weithwyr gofal ym mhob cwr o Gymru. Dim ond y cam cyntaf yw hwn ond mae’r undebau yn obeithiol ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Fforwm Cenedlaethol y Darparwyr: “Mae darparwyr gofal cymdeithasol yn gwybod o brofiad uniongyrchol pa mor bwysig yw’r gweithlu i wella bywydau pobl. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth a’r undebau llafur i wella cydnabyddiaeth, tâl ac amodau gwaith. Bydd Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn ofod gwerthfawr i drafod a datblygu polisïau sy’n datblygu’r nodau hyn. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â gwaith parhaus i sicrhau bod gwasanaethau’n cael y cyllid angenrheidiol i wireddu’r polisïau hynny.”