Y Gweinidog Iechyd newydd yn gofyn i bobl Cymru fynd ar eu gwyliau yn y DU eleni
Holiday in Wales this year new Health Minister asks
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn gofyn i bobl fynd ar eu gwyliau yng Nghymru a manteisio ar y cyfle i fwyhau ei phrydferthwch, wrth i’r frwydr yn erbyn y coronafeirws barhau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod preswylwyr yng Nghymru yn gallu gwneud cais am dystysgrif brechu ar gyfer teithio rhyngwladol brys. Mae’r dystysgrif yn ffordd o ddangos eu bod wedi cael cwrs llawn o frechlyn COVID.
Caiff pobl sy’n byw yng Nghymru ofyn am dystysgrif, dim ond ar yr amodau canlynol:
- Maent wedi cael dau ddos o’r brechlyn COVID-19 (dylent aros 5 niwrnod ar ôl eu hail ddos cyn gwneud cais am y dystysgrif)
- Mae angen iddynt deithio ar frys i wlad sy’n gofyn am dystysgrif brechu.
- Nid ydynt yn gallu naill ai ddefnyddio cwarantin na darparu profion i fodloni’r gofynion ar gyfer mynd i mewn i wlad.
Mae teithio rhyngwladol i bobl yng Nghymru wedi ailddechrau ers dydd Llun 17 Mai. Mae system goleuadau traffig, fel systemau’r Alban a Lloegr, ar waith gan ddosbarthu gwledydd o dan y lliwiau gwyrdd, oren a choch, gan ddibynnu ar eu cyfraddau coronafeirws.
Mae cwarantin yn ofynnol i bawb sy’n dychwelyd i’r DU o wledydd ar y rhestrau oren a choch. Hefyd rhaid i bawb sy’n dychwelyd ar ôl teithio dramor gael prawf PCR. Rhaid i bobl sy’n teithio dramor gadw at reolau’r gwledydd y maent yn ymweld â nhw.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
“Dw i’n gwybod bod pobl yn edrych ymlaen at gael gwyliau ar ôl blwyddyn heriol iawn, ond dyma gyfle eleni i gael gwyliau gartref a mwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig. Rwy’n annog pobl i gefnogi busnesau lleol, yn enwedig yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch sydd wedi cael eu bwrw’n galed gan y pandemig.
“Yn bendant, dydy teithio dramor ddim yr un fath ag yr oedd cyn y pandemig – bydd yn rhaid i bawb cymryd prawf cyn iddyn nhw adael a phan fyddan nhw’n dychwelyd, a bydd angen i rai pobl aros mewn cwarantin ar ôl dychwelyd i’r DU.
“Rydyn ni i gyd wedi gweithio’n hynod o galed i gael y coronafeirws o dan reolaeth yng Nghymru; mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y coronafeirws rhag cael ei fewnforio eto i Gymru drwy fod pobl yn teithio. Rydyn ni’n cynghori pobl yn gryf i beidio â theithio dramor oni bai bod eu taith yn gwbl hanfodol.”
Gall pobl ffonio 0300 303 5667 i ofyn am dystysgrif brechu, sydd ar gyfer teithio rhyngwladol brys yn unig.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Rydyn ni wedi rhoi system ar waith i gael statws tystysgrif brechu i’r rheini y mae angen iddyn nhw deithio ar frys. Dim ond nifer bach o wledydd y mae’n bosibl teithio iddynt heb orfod treulio cyfnod mewn cwarantin, ac ar hyn o bryd does dim llawer o wledydd sy’n gofyn am statws brechu fel tystiolaeth ar gyfer teithio. Os oes gwir angen ichi deithio, dylech edrych cyn mynd a yw’r wlad yr ydych yn mynd iddi’n gofyn am dystiolaeth eich bod wedi cael eich brechu. Bydd tystysgrif yn cymryd saith i ddeg o ddiwrnodau gwaith i gyrraedd, felly cofiwch drefnu ymlaen llaw, ond cofiwch hefyd ein bod yn gofyn i bawb feddwl yn ofalus cyn penderfynu teithio dramor.”
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn gallu defnyddio ap y GIG i ddangos eu statws brechu. Bydd hwn ar gael maes o law.
DIWEDD
Notes to editors:
- Further information on international travel: https://gov.wales/coronavirus-travel
- Further information on vaccine certificates can be found on the Welsh Government website: Getting a vaccine certificate for international travel | GOV.WALES