English icon English

Y Gweinidog Iechyd yn annog pawb i Ddiogelu Cymru yr haf hwn

Keep Wales Safe this summer, urges Health Minister

Bydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn atgoffa pawb i chwarae eu rhan i ddiogelu Cymru yr haf hwn yn ystod cynhadledd i'r wasg y prynhawn yma [21 Mehefin].

Wrth i achosion o’r amrywiolyn Delta barhau i gynyddu yng Nghymru, bydd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Dr Chris Jones yn ymuno â'r Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau cynnydd cyson mewn achosion o’r coronafeirws, gyda thystiolaeth bod yr amrywiolyn Delta yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned.

Dywed y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:

“Wrth inni symud i fisoedd yr haf, nid nawr yw'r amser i laesu dwylo. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu, ac mae trosglwyddiad yr amrywiolyn Delta yn ein hatgoffa pa mor gyflym y gall ledaenu.

“Mae ein brwydr yn erbyn y feirws yn dibynnu ar y camau rydyn ni i gyd yn eu cymryd gyda'n gilydd ac mae angen inni ddal ati i wneud yr holl bethau sydd wedi helpu i’n cadw ni a’n teuluoedd yn ddiogel ac i ddiogelu Cymru.  Rhaid i bob un ohonom wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo, gwisgo gorchudd wyneb, a chyfyngu ein cyswllt â phobl dan do, er mwyn diogelu Cymru a chadw’r lefelau trosglwyddo mor isel â phosibl.  Rhaid inni hefyd geisio cwrdd â phobl yn yr awyr agored lle bo modd, a sicrhau bod mannau o dan do yn cael eu hawyru’n dda.

“Mae cynnal profion yn arbennig o bwysig wrth i amrywiolion newydd ddod i'r amlwg, er mwyn helpu i ganfod achosion positif a rheoli brigiadau o achosion yn fwy effeithiol.  Hoffwn atgoffa unrhyw un sydd â symptomau – hyd yn oed os ydynt yn ysgafn – i ddilyn y canllawiau hunanynysu ac i drefnu prawf PCR.

“Os byddwn i gyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb ac yn cadw’r canllawiau mewn cof, bydd gennym y cyfle gorau i fynd yn ôl i wneud y pethau rydyn ni'n gweld eu heisiau fwyaf.”

Cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yr wythnos diwethaf y byddai oedi o bedair wythnos o ran llacio rheoliadau ymhellach er mwyn bwrw ymlaen â'r rhaglen frechu yn gyflym. Bydd mwy na hanner miliwn o ddosau ar gael yn ystod y mis nesaf, a bydd y prif bwyslais ar roi’r ail ddos a sicrhau bod pobl wedi’u hamddiffyn yn llawn.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:

“Mae ein rhaglen frechu yng Nghymru yn un o'r goreuon yn y byd, ond er mwyn iddi barhau i lwyddo mae angen i bobl dderbyn y cynnig o frechlyn.  

“Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd inni amddiffyn ein hunain ac mae angen i bawb dderbyn y cynnig a chofio nad yw un dos yn ddigon.  Mae angen dau ddos arnom i gyd i gwblhau'r cwrs ac i gael y cyfle gorau i leihau ein risg o salwch difrifol, yn enwedig wrth inni wynebu lledaeniad yr amrywiolyn Delta.”

Nodiadau i olygyddion

Notes

More information on the Welsh Government’s Keep Wales Safe campaign is available here

If you think you have been missed for a vaccine appointment, you should contact your health board.  More information can be found here

The Welsh Government’s latest TV ad is available to view here