English icon English

Y Gweinidog yn amlinellu llwybr ar gyfer dyfodol gwasanaethau deintyddol yng Nghymru

Minister sets out path for the future of dental services in Wales

Heddiw (dydd Iau 1 Gorffennaf), mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi amlinellu llwybr i gynyddu gwasanaethau deintyddol rheolaidd yn raddol yng Nghymru

Cadarnhaodd hefyd ei hymrwymiad i’r cynlluniau ehangach i ddiwygio deintyddiaeth y GIG ond dywedodd y bydd newidiadau i gontract deintyddol y GIG yn cael eu gohirio tan y flwyddyn nesaf i alluogi’r gwasanaeth i adfer o effaith y pandemig.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r ffordd y mae pobl wedi defnyddio gwasanaethau deintyddol yn ystod y pandemig wedi newid ond mae gwasanaethau deintyddol y GIG wedi parhau i fod ar gael i’r rhai â’r angen mwyaf.

“Mae deintyddiaeth wedi bod ymysg y gwasanaethau mwyaf heriol inni eu darparu yn ystod y pandemig oherwydd y gweithdrefnau sy’n cynhyrchu aerosol a pha mor agos y mae’n rhaid i’r deintydd fod at y claf.

“Ond mae’r gwasanaeth wedi ymateb i’r her er mwyn gwasanaethu’r rhai â’r angen mwyaf. Hoffwn ddiolch i bawb yn y gwasanaeth sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau hynny.”

Ers dechrau’r pandemig, mae deintyddion wedi gweld dros 1.3m o bobl mewn practisau ledled Cymru ac wedi darparu 340,000 o ymgyngoriadau o bell, drwy wasanaethau ffôn neu fideo. Mae meddyginiaeth lleddfu poen a gwrthfiotigau wedi parhau i gael eu rhagnodi pan fo angen.

Mae nifer yr achosion brys y mae deintyddion yn eu gweld yn dechrau dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn galluogi practisau i fynd i’r afael â’u rhestrau o driniaethau sydd wedi cronni ac i gynnig asesiadau rheolaidd pan fo’n bosibl.

Ond dywedodd y Gweinidog Iechyd mai yn raddol y bydd gwasanaethau deintyddol rheolaidd eraill yn dychwelyd wrth i dimau ganolbwyntio ar y gwaith mwyaf brys a thriniaethau a ohiriwyd.

Dywedodd: “Bydd angen i bractisau deintyddol barhau i ddilyn mesurau rheoli haint llym er mwyn helpu i atal lledaeniad Covid. Wrth i’r risgiau leihau, bydd modd iddyn nhw gynyddu’r triniaethau a’r asesiadau rheolaidd y maen nhw’n eu darparu.

“Rydyn ni nawr yn ystyried eleni’n gyfnod o ailosod ac adfer ond rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i ddiwygio deintyddiaeth. Dyna pam yr wyf heddiw’n cyhoeddi bod camau i ddiwygio’r contract yn cael eu gohirio tan fis Ebrill 2022 i roi cyfle i’r gwasanaeth ganolbwyntio ar adfer.”

Dywedodd Dr Colette Bridgman, Prif Swyddog Deintyddol Cymru: “Mae timau deintyddol yng Nghymru yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pawb yn cael ei drin cyn gynted â phosibl, a hynny mewn ffordd ddiogel. Rydyn ni’n gofyn ichi barhau i fod yn amyneddgar ac i alluogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf i gael eu trin gyntaf.

“Yn y cyfamser, cofiwch barhau i gynnal iechyd eich ceg, dilyn cyngor eich deintydd, lleihau faint o siwgr sydd yn eich deiet a pha mor aml rydych yn ei fwyta, a brwsio’ch dannedd gyda phast dannedd fflworid, y peth olaf gyda’r nos ac ar un achlysur arall bob dydd. Ar ôl brwsio’ch dannedd a phoeri’r past dannedd allan, cofiwch beidio â rinsio’ch ceg fel y bydd y past yn aros ar eich dannedd i’w hamddiffyn.”

Mae gofal deintyddol brys ar gael i unrhyw un sydd ei angen drwy 111 neu drwy gysylltu â’r bwrdd iechyd lleol i gael cyngor. Hyd nes y bydd y gwasanaeth arferol wedi ailddechrau, mae yna lawer o bethau y gall pobl eu gwneud i gynnal iechyd deintyddol da. Mae rhagor o wybodaeth am ofal a thriniaeth iechyd deintyddol ar gael yn GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Pydredd dannedd