Y Gweinidog yn annog pobl sy’n ei chael yn anodd talu biliau i fanteisio ar y gwasanaethau cyngor hanfodol sydd ar gael yn y Gogledd
Minister encourages those struggling with bills to make use of vital advice services available in North Wales
Ddoe, ymwelodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, â Chanolfan ASK yn y Rhyl, ac mae’n annog pobl yn y Gogledd i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae Canolfan ASK wedi ei lleoli yn yr Eglwys Unedig, ac mae’n gwasanaethu ei chymuned drwy gynnig bwyd, cyngor, mynediad at wasanaethau ar-lein, a lleoedd clyd ar gyfer llawer o grwpiau a gweithgareddau.
Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i swyddfeydd Cyngor ar Bopeth yn Sir Ddinbych, un o’r partneriaid cynghori yng ngwasanaeth rhanbarthol Cronfa Cynghori Sengl Gogledd Cymru. Problemau gyda hawliadau budd-daliadau lles, yn enwedig Taliadau Annibyniaeth Personol a Chredyd Cynhwysol, yw’r prif reswm pam mae pobl yn gofyn am gyngor. Fe wnaeth gwasanaethau’r Gronfa yn y Gogledd helpu eu cleientiaid i hawlio dros £17m o incwm budd-daliadau lles ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Ers i Gronfa Cynghori Sengl Llywodraeth Cymru gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2020, mae wedi helpu 144,000 o bobl i ymdrin â thros 660,000 o broblemau lles cymdeithasol. Mae wedi helpu pobl i hawlio £83m o incwm ychwanegol, gan ddileu dyledion gwerth dros £23m. Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i barhau â’r cyllid ar gyfer y Gronfa Cynghori Sengl hyd at fis Mawrth 2024.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Dw i’n gwybod y gallai’r gwasanaethau cynghori rydyn ni’n eu cefnogi achub y sefyllfa i bobl sy’n brwydro i ymdopi â’r argyfwng costau byw, drwy eu helpu i gael yr incwm uchaf posibl a rheoli eu dyledion. Mae’r wych gweld yr holl waith hanfodol hwn sy’n digwydd mewn prosiectau fel Canolfan ASK.
“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n ansicr ynghylch pa gymorth sydd ar gael i fynd i ganolfannau fel hyn, neu i alw Advicelink Cymru i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n mynd heb arian mae ganddyn nhw hawl iddo.”
Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd fynychu cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer y Gogledd yng Nghyffordd Llandudno ddoe, oedd yn cynnwys aelodau’r Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol.