Y Gweinidog yn croesawu cynllun i wahardd cŵn American Bully XL ar ôl galw am weithredu
Minister welcomes plan to ban American Bully XL after call for action
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod am wahardd cŵn y brid American Bully XL erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog: Rwy’n croesawu newyddion heddiw bod camau’n cael eu cymryd o’r diwedd i ddelio â chŵn y brid American Bully XL yn dilyn nifer o ymosodiadau a marwolaethau. Rwyf wedi sgrifennu at Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd i ofyn am ymateb i’r achosion gyda chŵn y brid American Bully XL, ac i feddwl a oedd modd gwella Deddf Cŵn Peryglus 1991. Dim ond yr wythnos yma mi godais y mater unwaith eto hefo Ysgrifennydd Gwladol Defra ac rwy’n edrych ymlaen at weld manylion y mesurau
“Bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwaharddiad ddim yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd, lles cŵn a’r pwysau ar y sector lles anifeiliaid ehangach.
“Annog perchenogion cŵn i fod yn gyfrifol yw un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae ein Cod Ymarfer ar Les Cŵn yn esbonio ei bod yn ddyletswydd ar berchenogion cŵn i gadw eu cŵn o dan reolaeth. Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys nifer o fesurau fydd yn gwella safonau bridio a chadw cŵn yng Nghymru.
“Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i leihau’r peryglon y mae perchenogion anghyfrifol yn eu hachosi ond gan hyrwyddo manteision cŵn i gymdeithas.”