English icon English

Y Prif Weinidog a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymweld â phrosiect newid hinsawdd y Borth

First Minister and Future Generations Commissioner visit Borth climate change project

Ddoe [Dydd Iau, 5 Mehefin 2025], wrth ymweld â phrosiect panel solar sy'n cynhyrchu trydan i feddygfa leol yng Ngheredigion, bu Prif Weinidog Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn trafod yr angen i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru.

Mae canolfan ddiwylliannol Star of the Sea yn y Borth yn enghraifft o ddatblygu cynaliadwy a arweinir gan y gymuned. Wrth ymweld â phrosiectau ynni adnewyddadwy lleol, sydd eisoes yn gwneud cyfraniad gwerthfawr, bu'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Comisiynydd Derek Walker yn trafod sut i sbarduno gweithredu cymunedol sy’n helpu i arafu’r newid yn yr hinsawdd.

Roedd y prosiect wedi cael cymorth technegol a chyllid grant trwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gan alluogi'r lleoliad cymunedol i gynhyrchu trydan glân iddo'i hun ac i'r feddygfa gyfagos.

Dywedodd Eluned Morgan:

"Mae'r hyn ry'n ni wedi'i weld yn y Borth heddiw yn dangos yn union sut y gall cymunedau ledled Cymru weithredu ar newid hinsawdd a thrwy hynny arwain y ffordd yn y maes. Mae'r prosiectau ynni adnewyddadwy lleol hyn nid yn unig yn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, maen nhw hefyd yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn torri costau i wasanaethau hanfodol.

"Mae Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol yn dangos ein bod ni wedi gweld cynnydd mewn sawl maes, ond mae llawer mwy i'w wneud. Drwy wrando ar gymunedau a chefnogi arloesedd lleol, gallwn ni adeiladu Cymru sy'n wirioneddol gweithio i genedlaethau'r dyfodol, gan wneud hynny ochr yn ochr â mynd i'r afael â heriau uniongyrchol fel costau byw ac argyfyngau hinsawdd." 

Roedd yr ymweliad, a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, yn cynnwys trafodaethau gydag arweinwyr cymunedol lleol o Borth 2030, a chynrychiolwyr o Ynni Cymunedol Cymru, ynghylch ehangu prosiectau ynni sy'n eiddo i gymunedau ledled y wlad.

Mae'r Comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu ei thargedau ar gyfer cynhyrchu ynni cymunedol ac i ddarparu mwy o adnoddau i grwpiau lleol allu datblygu prosiectau adnewyddadwy.

Dywedodd Derek Walker:

"Mae adnoddau ynni lleol, sy'n eiddo i gymunedau ac sy’n cael eu rhedeg ganddyn nhw, yn hanfodol i helpu i ddatrys anghenion ynni Cymru yn y dyfodol.  Mae'r prosiectau yn y Borth yn dangos sut mae dod ynghyd fel cymuned i weithredu ar newid hinsawdd yn helpu i wneud Cymru yn fwy gwydn o ran ei hynni, gan gefnogi gwasanaethau fel y GIG a chreu swyddi lleol. Roedd yn dda trafod gyda'r Prif Weinidog sut y gallai'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol ddarparu mwy o gymorth i gynlluniau fel hyn."