Y Prif Weinidog yn addo cyflawni dros Gymru yn 2025
First Minister promises to deliver for Wales in 2025
Heddiw (dydd Mawrth 7 Ionawr) bydd y Prif Weinidog, Eluned Morgan yn dweud wrth y Senedd sut y bydd hi'n cyflawni dros Gymru yn 2025.
Ers dod yn Brif Weinidog, mae hi wedi teithio ar hyd a lled Cymru, gan gwrdd â phobl yn eu cymunedau i wrando arnynt a dysgu o lygad y ffynnon beth sydd bwysicaf iddyn nhw. Gosodwyd eu blaenoriaethau wrth wraidd rhaglen waith y llywodraeth: 'Iechyd da' – Cymru Iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cyfleoedd i bob teulu a chysylltu cymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi targedu £157m yn ychwanegol i gyflawni'r addewidion hyn.
Mae hyn yn cynnwys £21m ar gyfer offer diagnostig i'r GIG er mwyn helpu i leihau amseroedd aros, yn ogystal â phecyn gwerth £50m er mwyn helpu i gwtogi'r cyfnodau aros hiraf. Darparwyd £20m i'r Grant Safonau Ysgolion, a bydd £10m arall yn cael ei ddefnyddio i gefnogi darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae £20m ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion a cholegau.
Buddsoddwyd £10m o gyllid ychwanegol mewn tai cymdeithasol, yn ogystal â £10m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ailalluogi - helpu pobl i ailddysgu sut i wneud gweithgareddau dyddiol fel coginio prydau bwyd a golchi, cynyddu gofal yn y gymuned a gwella prosesau rhyddhau cleifion o ysbytai. Ceir cefnogaeth hefyd i ofal cartref - gan gynnal yr uchafswm tâl o £100 yr wythnos am ofal.
Mae cynlluniau ar gyfer cyflawni hyn yn 2025 eisoes ar waith. Mae'r Gyllideb Ddrafft wedi amlinellu gweledigaeth fentrus y llywodraeth ar gyfer dyfodol mwy disglair, gan ddarparu £1.5 biliwn ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn gynllun ar gyfer gwella bywydau yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf, gan ein gosod yn gadarn yn ôl ar y trywydd cywir i sicrhau twf.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae gennym ni gynllun uchelgeisiol ar gyfer cyflawni yn 2025 a thu hwnt, gan weithio ar draws pob un o'n meysydd blaenoriaeth ac mewn cydweithrediad â'n partneriaid ledled y wlad.
"Yn rhinwedd fy swydd o fod yn Brif Weinidog Cymru, rwy'n teimlo bod rhaid i ni fod yn llywodraeth sy'n gwrando ac yn llywodraeth sy'n ymateb i'r hyn sy'n cael ei glywed, gan weithio gyda'n partneriaid i sicrhau canlyniadau go iawn i bobl Cymru.
"Nid dyma ddiwedd ein sgwrs â phobl Cymru o bell ffordd, mae'n fwy o droi dalen lân, dechrau blwyddyn newydd, dechrau tymor newydd a dechrau ein taith i greu dyfodol mwy disglair i Gymru."